Mae Cered: Menter Iaith Ceredigion wedi bod yn cydweithio’n agos iawn gyda Brownies Penrhyncoch dros y flwyddyn ddiwethaf i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg a’u hymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg.

Mae'r cydweithio wedi galluogi Brownies Penrhyncoch i dderbyn y wobr Is-lywydd Girlguiding Ceredigion sy'n cynrychioli eu hymrwymiad a'u cyfraniad i'r iaith Gymraeg.

Mae Cered wedi cydweithio’n agos gyda Girlguiding Ceredigion ar draws y sir gan weithio gyda changhennau Girl Guides yn ogystal â’r Brownies. Bwriad Cered yw parhau i weithio ar y cyd gyda changhennau Brownies a Girl Guides yng Ngheredigion er mwyn iddyn nhw allu cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynhaliwyd cyfres o weithgareddau amrywiol i’r aelodau gan gynnwys sesiynau cyfansoddi cân Gymraeg gyda chymorth y gantores ifanc o Geredigion, Mari Mathias.

Dywedodd Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered, “Mae Cered wedi sefydlu partneriaeth lwyddiannus gyda’r Brownies ym Mhenrhyncoch sydd wedi eu galluogi i gynyddu eu portffolio Cymraeg. Mae’r gân Gymraeg a gyfansoddwyd ganddynt yn destament o’u  llwyddiant, o’u hymrwymiad a’u brwdfrydedd tuag at yr iaith Gymraeg.”

Dywedodd Wendy Reynolds, Arweinydd Brownies Penrhyncoch, “Roedd yn syrpreis hyfryd i ganfod ein bod wedi ennill gwobr Is-lywydd Girlguiding Ceredigion am ein cyfraniad tuag at yr iaith Gymraeg. Rydyn ni bob amser yn ceisio annog y merched i siarad Cymraeg. Roedd cyfansoddi cân Gymraeg gyda chymorth Mari Mathias yn enwedig, yn sicr wedi helpu i godi hyder y merched, ac o ganlyniad maent yn siarad mwy o Gymraeg nag o’r blaen. Dwi’n browd iawn ohonynt.”

Caroline Wilson yw Comisiynydd Girlguiding Sir Ceredigion a dywedodd, “Mae Brownies Penrhyncoch wedi mwynhau gweithio gyda Cered er mwyn cynhyrchu’r CD. Roedd hyn yn brofiad newydd i’r merched. Cafodd Brownies Penrhynoch eu henwebu ar gyfer gwobr yn nigwyddiad ‘Inspire’ yn ddiweddar ym Broneirion, cartref Girlguiding Cymru. Fel Comisiynydd y Sir i Girlguiding Ceredigion, cefais fy ngwahodd i'r uned i gyflwyno’r gwobrau i'r merched – roedd yn fraint!

Rydym yn croesawu’r cyfle i gydweithio hyd yn oed yn fwy gyda Cered yn y dyfodol agos. Rydym wastad yn edrych am arweinwyr newydd fel bod mwy o ferched yn cael y cyfle i gymryd rhan yn ein gweithgareddau.”

Prif nod Cered yw cefnogi, dylanwadu a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion er mwyn gosod y seiliau gorau posibl ar gyfer tyfu a datblygu’r Gymraeg ar lefel gymunedol a chymdeithasol.

Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen www.girlguiding.org.uk neu cysylltwch â Cered: Menter Iaith Ceredigion ar 01545 572350 neu drwy e-bost at cered@ceredigion.gov.uk.

 

19/07/2019