Yn syth o Ŵyl Ymylol Caeredin, mae ‘Cer i grafu…sori GARU!’ - sy’n addasiad Cymraeg o’r sioe ‘Lovecraft’ (Not the Sex Shop in Cardiff), yn sioe gomedi gerddorol am niwrowyddoniaeth cariad ac unigrwydd ac mae’n dod i Theatr Felinfach ar Nos Sadwrn, 19 Hydref.

Mae’r sioe yn taclo’r themâu cyfoes lles a iechyd meddwl gyda thrac sain wreiddiol a chaneuon aml-genre. Dyma gynnig cyntaf Carys fel awdur ac fe ddatblygwyd y sgript o'r dechrau gyda chefnogaeth gan Ganolfan Mileniwm Cymru. Mae Carys yn fwy adnabyddus efallai am ei rôl yng nghyfres S4C - Parch - a chafodd ei henwebu am wobr BAFTA yn 2018 am ei rôl yn y gyfres honno.

Cafodd Lovecraft ei berfformio am y tro cyntaf yn ystod Gŵyl y Llais Canolfan Mileniwm Cymru ym mis Mehefin 2018 ac yna aeth i Ŵyl Ymylol Caeredin – gŵyl gelfyddydol fwyaf y byd. Fe aeth ymlaen i ennill y wobr Cabaret Gorau yng Ngŵyl Ymylol Adelaide – ail ŵyl Ymylol fwyaf y byd – ym mis Mawrth 2019. Dychwelodd y sioe i Ŵyl Ymylol Caeredin ym mis Awst eleni fel rhan o raglen Cyngor Celfyddydau Cymru ‘Dyma Gymru’, cyn cychwyn ar daith ledled Cymru gyda’r ddau fersiwn - Cymraeg a Saesneg dros yr hydref.

Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig y Ganolfan: “Mae Canolfan Mileniwm Cymru’n ymroddedig i greu gwaith arloesol a chyfoes sy’n dangos Cymru ar ei orau i’r byd, a dyma enghraifft wych o’r uchelgais yma.”

Dywedodd Carys Eleri: “Rwy’n hynod gyffrous i allu teithio o gwmpas gwlad fwyaf secsi’r byd gyda’r sioe-wyddonol mwyaf secsi sydd erioed wedi cael ei chreu ynddi. P’un ai yn y Gymraeg neu yn Saesneg, dewch i ymuno yn yr hwyl fy hyfryd ffrindiau fel ein bod ni’n gallu chwalu’r epidemig unigrwydd unwaith ac am byth. Cwtsho yw’r ateb.”

Bydd Cer i grafu…sori GARU! yn Theatr Felinfach ar Nos Sadwrn, 19 Hydref am 7:30yh.

Mae tocynnau ar gael drwy’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ar-lein ar www.theatrfelinfach.cymru. Mae’r tocynnau yn £12 i oedolion, £11 i bensiynwyr a £10 i fyfyrwyr a phobl ifanc dros 16.

Canllaw Oedran: 16+

04/10/2019