Mae 68 o unigolion wedi cael cefnogaeth yn ystod y pedwar mis cyntaf prosiect newydd yng Ngheredigion.

Mae Cymunedau dros Waith yn brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cefnogi unigolion o oedran gweithio sydd mewn, neu mewn perygl o dlodi, ledled Ceredigion.

Dechreuodd y Prosiect yng Ngheredigion ym mis Mehefin 2018 gyda dau Fentor a Swyddog Cyswllt Cyflogwr. Maent yn cefnogi pobl i wella eu sgiliau cyflogadwyedd. Yn ei dro, dylai hyn helpu i gael gwaith neu i gael cyflogaeth well â thâl.

Ers mis Mehefin 2018, mae 152 o atgyfeiriadau wedi'u derbyn, tra bod 68 o bobl wedi'u cefnogi. Yn dilyn cefnogaeth y Prosiect, mae 10 o bobl wedi cael gwaith gyda chyflog, ac mae eraill wedi mynd i leoliadau gwirfoddoli, cyfleoedd gwaith â thâl a hyfforddiant. Dywedodd un Cyfranogwr a gafodd help i gael gwaith, “Roedd y gefnogaeth a gefais gan fy mentor yn wych. Fe gafodd yr hyfforddiant gorau i mi a helpodd trwy'r holl broses. Fe wnaeth hyn arwain at yrfa newydd yr oeddwn wedi bod yn gobeithio ei gyflawni ers tro.”

Mae mentoriaid yn darparu cefnogaeth un i un i Gyfranogwyr ysgrifennu CV, ymgymryd â chyfweliadau ffug, gwella sgiliau a chyllido amrywiaeth eang o hyfforddiant o drwydded HGV i wneud sebon, gan gynnwys cymorth i ddechrau busnes eu hunain.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, “Gall y prosiect helpu i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli, cyfleoedd gwaith â thâl, cyfleoedd cyflogaeth a gwneud cysylltiadau da â chyflogwyr lleol. Mae cefnogaeth yn ymestyn i bobl sydd mewn 'tlodi gwaith'. Felly, os ydych chi'n edrych ar wella'ch sgiliau i'ch galluogi i gael swydd well, yna gallai Cymunedau dros Waith eich helpu.”

Os ydych chi'n credu y gallai'r prosiect eich helpu, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm ar 01545 574193 neu anfonwch e-bost at cfwp@ceredigion.gov.uk.

Yn ogystal, os ydych yn gyflogwr ac yn medru cynnig cyfleoedd i Gyfranogwyr ymgymryd â phrofiad gwaith, neu gyfle gwaith â thâl a ariennir gan Cymunedau dros Waith, cysylltwch.

---DIWEDD---

Llun: Swyddogion Cymunedau dros Waith: Delor Evans, Catrin Davies a Elen Ebenezer 

23/11/2018