Mae 345 o drigolion Ceredigion wedi cael cefnogaeth yn ôl i weithio yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Dechreuodd Cymunedau am Waith a Mwy yng Ngheredigion ym mis Ebrill 2018. Ers hynny, mae'r prosiect wedi cefnogi 345 o drigolion hyd ddiwedd mis Mai gydag amrywiaeth o ffurfiau i'w cael yn ôl i weithio. Mae'r prosiect wedi cefnogi 104 o'r rhain yn ôl i waith amser llawn.

Mae Lionel Plant yn adrodd am ei stori a sut y gwnaeth Cymunedau am Waith a Mwy helpu i newid ei fywyd. “Ym mis Ebrill 2020, trodd fy mywyd wyneb i waered pan ddwedwyd wrthyf fy mod yn cael fy niswyddo oherwydd nad oedd unrhyw waith yn dod i mewn gyda’r cwmni coetsys yr oeddwn yn gweithio iddo. Cefais wybod am Cymunedau am Waith a Mwy ar lafar gwlad. Cysylltais â Delor, Mentor o Cymunedau am Waith a Mwy ac yna dechreuodd pethau ddigwydd. Mae Delor wedi fy helpu bob cam o'r ffordd ac rwy'n ddiolchgar iawn am ei chefnogaeth a'i help, o wneud y prawf theori ac yna symud ymlaen i'r ymarferol ar gyfer fy nhrwydded HGV. Fe wnes i fethu’r prawf ymarferol cyntaf a oedd yn anodd i mi, ond pasiais yr eildro. Roedd Delor yn ddefnyddiol wrth aildrefnu popeth. Rwyf mor hapus fy mod wedi cael ail gyfle ac yn ddiolchgar i Cymunedau am Waith a Mwy am gyfle o'r fath. Erbyn hyn mae gen i swydd amser llawn yn gweithio fel gyrrwr tipio i gwmni lleol. Mae bywyd gymaint yn well diolch i Cymunedau am Waith a Mwy!”

Gall Cymunedau am Waith a Mwy ddarparu cymorth cyflogaeth gyda:

  • Chwilio am swydd
  • Diweddaru CV
  • Help gyda cheisiadau am swydd
  • Ffug gyfweliadau
  • Adeiladu hyder
  • Mynediad at rwydwaith o gyflogwyr

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cefnogaeth ac Ymyrraeth: “Mae'n galonogol clywed am stori Lionel a'i fod bellach yn ôl yn y gwaith. Mae cefnogaeth ymarferol gan Cymunedau am Waith a Mwy yn amhrisiadwy i bobl sy'n profi diweithdra, yn enwedig yn ystod yr amseroedd anodd hyn. Mae Cymunedau am Waith a Mwy yma i gefnogi trigolion Ceredigion.”

Mae Cymunedau am Waith a Mwy Ceredigion yn cael ei staffio gan swyddogion o Gyngor Sir Ceredigion ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Gallant ariannu hyfforddiant, trwyddedau / tystysgrifau, dillad gwaith, offer amddiffyn personol (PPE), dillad cyfweld a chostau teithio.

Os hoffech ddarganfod mwy, ffoniwch un o’r mentoriaid ar 01545 574193 neu e-bostio TCC-EST@ceredigion.gov.uk.

08/07/2021