Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi ‘Gwnewch Safiad, Gwnewch Sylw’ ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn sy’n cael ei gynnal ar 25 Tachwedd 2019.

Daeth Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) i rym yn 2015. Ei hamcan yw gweithio tuag at atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol, ynghyd â gwella’r gefnogaeth i’r sawl sydd wedi’u heffeithio.

Dywedodd Sue Darnbrook, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Phencampwraig Trais yn y Cartref, “Rydym ni’n annog pawb i wisgo rhuban gwyn i ddangos eu hymrwymiad i’r diwrnod pwysig hwn. Mae 2,375 o staff y cyngor wedi cwblhau rhaglen hyfforddiant e-ddysgu ar y Ddeddf. Mae’r cyngor hefyd yn rhedeg hyfforddiant Gofyn a Gweithredu i helpu pobl i adnabod yr arwyddion ac i wybod at bwy y dylid cyfeirio pobl am help.”

Mae Gwasanaeth Pobl a Threfniadaeth y cyngor yn gwisgo Rhubanau Gwynion i ddangos eu hymrwymiad tuag at stopio trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol.

 

25/11/2019