Mae ymweliad Eisteddfod Genedlaethol Cymru â Cheredigion yn gyfle ardderchog i hyrwyddo busnesau lleol a rhoi hwb i’r economi leol.

Yn ogystal â’r cynnydd mewn ymwelwyr â’r sir, mae nifer o fusnesau Ceredigion wedi manteisio ar y cyfle i werthu eu cynnyrch mewn stondin ar faes y brifwyl.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi busnesau lleol/bach, ac rydym yn falch bod rhai ohonynt wedi derbyn y gwahoddiad i arddangos eu cynnyrch mewn cytiau pren ar y stondin ym Mhentre’ Ceredigion.

Rydym yn croesawu’r cyfle i ddangos bod Ceredigion yn lle da i wneud busnes, ac yn gyfle i’r busnesau yma i hyrwyddo a gwerthu eu cynnyrch.

Bydd tua 15 o gwmnïau o Geredigion yn manteisio ar y cytiau pren yn ystod yr wythnos. Yn eu plith, mae Pethau Melys, Galeri Gwyn, Bay Coffee Roasters, CreatEmAber, Yoga Essentials, Canfas, Tonnau Surf, U Melt Me, Gwella, L P-D, Atebol, Coffi & Bara, In the Welsh Wind, Recover Eden, ac Aberdabbadoo.

Bydd cyfle hefyd i bobl ddysgu mwy am gwmnïau bwyd a diod y sir yn yr arddangosfeydd coginio dyddiol am 11:30am ym mhrif babell Pentre’ Ceredigion. Cofiwch alw heibio am rywbeth i dynnu dŵr i’ch dannedd.

Un cwmni lleol sydd wedi manteisio ar hyn yw’r cwmni crefftau L P-D. Dywedodd Lowri Pugh-Davies o Langybi: “Dyma gyfle arbennig tu hwnt i fy musnes bach. Rwy’n hynod o ddiolchgar am y fraint a’r cyfle gwych i fasnachu, ar y cyd â busnesau eraill o Geredigion, a hynny dafliad carreg o’m cartref. Bydd y profiad hyd yn oed yn fwy arbennig i mi gan taw hwn fydd yr Eisteddfod gyntaf i mi fynd â stondin iddi, a’r digwyddiad mwyaf i fy musnes bach. Diolch yn fawr iawn am y cyfle amhrisiadwy."

Beth am ymweld â rhai o ardaloedd eraill Ceredigion dros gyfnod y brifwyl hefyd? Dyma flas o’r hyn sydd gan y sir i'w gynnig: Trefi Ceredigion

Ychwanegodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer yr Economi ac Adfywio: “Mae gan fusnesau Ceredigion gymaint i’w gynnig ac mae ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’r sir yn gyfle heb ei ail i ddathlu a hyrwyddo hynny. Bydd yn braf gweld ymwelwyr â’r sir yn mentro i bob congl o Geredigion i flasu a chefnogi busnesau’r ardal, ynghyd â dod ar draws cwmnïau diddorol ar y maes ei hun. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o allu cefnogi busnesau llai hefyd trwy gynnig slotiau mewn cytiau masnachu pren yn ystod yr wythnos. Cofiwch alw heibio.”

Mae amserlen lawn Pentre’ Ceredigion ar ein gwefan: Pentre' Ceredigion 

Gallwch hefyd lawrlwytho ap yr Eisteddfod a chael mwy o wybodaeth ar wefan yr Eisteddfod, a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol:

  • Facebook: @CyngorSirCeredigion
  • Twitter: @CSCeredigion
  • Instagram: @CaruCeredigion

Cofiwch rannu eich lluniau chithau hefyd trwy ddefnyddio’r hashnod #Steddfod2022 ac #EisteddfodCeredigion.

15/07/2022