Mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn ar 25 Hydref, cefnogodd y Cyngor gynnig yn cefnogi ymgyrch Lucy’s Law. Mae’n dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cymunedau Iachach ar 19 Medi ble wnaeth y pwyllgor ystyried a chefnogi’r ymgyrch mewn egwyddor.

Mae Lucy’s Law yn galw am waharddiad ar unwaith er mwyn atal siopau anifeiliaid anwes a delwyr masnachol trydydd parti eraill rhag gwerthu cŵn bach, gyda’r bwriad o newid y ddeddfwriaeth gyfredol yng Nghymru. Yr amcan yw sicrhau bod cŵn bach ar gael o ganolfannau achub neu fridwyr cyfrifol lle caiff y cŵn bach wastad eu gweld gyda’u mamau iawn yn unig.

Cafodd y cynnig a gefnogwyd yn y Cyngor Llawn ei gynnig gan y Cynghorydd Maldwyn Lewis. Fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Paul Hinge.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd, “Mae Lucy’s Law yn gam mawr mewn taclo gwerthiant trydydd parti ac yn sicrhau bod bridwyr yn atebol. Mae’n gam tuag at sicrhau bod y rheolaeth ddeddfwriaethol am y mater yma yn tyfu fel bod y galw am gŵn bach yn tyfu. Mae’n debygol na fydd gwaharddiad ar werthiant trydydd parti yn cael gwared ar ymarferion gwael mewn magu cŵn bach, ond mae’n cael ei weld fel strategaeth bwysig i leihau maint y broblem yn fawr ac yn annog bridwyr i godi safonau.”

Cyn i’r Rheoliadau newydd ddod i rym, roedd y Cyngor wedi cymryd agwedd ragweithiol tuag at fridio cŵn yn y sir. Fe wnaethant hyn drwy gyflwyno amodau trwyddedu lawer mwy llym gyda’r bwriad o wella safonau lles yn y sefydliadau bridio cŵn. Roedd yr amodau a gyflwynwyd yn cyd-fynd â’r rheini yn yr awdurdodau lleol cyfagos er mwyn sicrhau cysondeb.

Parhaodd y Cynghorydd Lloyd, “Bydd y Cyngor yn parhau i weithredu mewn modd rhagweithiol ac adweithiol wrth reoleiddio sefydliadau bridio cŵn yn unol â’r staff sydd gennym a’r blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd. Mae cynnydd mawr wedi’i wneud yn y maes gwaith hwn ers cyflwyno’r amodau trwyddedu diwygiedig yn 2013 a bydd y gwaith yn parhau yn y dyfodol.”

01/11/2018