Yn ystod cyfnod cythryblus y llynedd, a sôn am ddiswyddiadau, roedd Archie, gyrrwr bws, a'r unig un yn ei deulu a oedd yn cael cyflog, yn gwybod bod yn rhaid iddo chwilio am swydd wahanol. Ar ôl chwilio am gymorth a chefnogaeth gan Cymunedau am Waith a Mwy, gallodd Archie gael gwaith newydd gyda chwmni casglu llaeth lleol.

Cysylltodd Archie â Cymunedau am Waith a Mwy ym mis Medi 2020 a neilltuwyd Mentor iddo - Delor Evans, a Swyddog Cyswllt Cyflogaeth - Catrin Davies o Dîm Cymunedau am Waith Ceredigion.

Roedd Archie yn mwynhau bod yn yrrwr ond, ar ôl darganfod efallai nad oedd ei swydd yn ddiogel bellach, roedd ganddo ddiddordeb mewn dod yn yrrwr cerbydau nwyddau trwm (HGV). Roedd hyn yn golygu y byddai’n rhaid iddo ymgymryd â hyfforddiant a chael trwydded ar gyfer hyn.

Trefnodd y Tîm Cymunedau am Waith a Mwy yr hyfforddiant angenrheidiol, y theori, yr ymarferol a’r Modiwl Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol (CPC). Ar waethaf oedi yn yr amserlen hyfforddi oherwydd cyfyngiadau Covid, pasiodd Archie yr hyfforddiant i gyd a, gyda’r cymwysterau newydd i’w enw, gallodd ddechrau chwilio am swydd newydd.

Chwiliodd Archie a’r tîm am swyddi addas gyda’i gilydd, dros y ffôn, a gweld bod Llaeth Cymreig yn hysbysebu am yrrwr tancer Dosbarth 2. Ar ôl sgwrs anffurfiol, aeth Archie am dreial gwaith o ddeuddydd. Roedd y treial gwaith yn llwyddiant ac mae Archie yn awr yn gweithio ar rota pedwar diwrnod o waith a phedwar diwrnod i ffwrdd o’r gwaith, patrwm hyblyg y gall Archie a’i deulu elwa ohono.

Dywedodd Archie: “Heb Cymunedau am Waith a Mwy, ni fyddwn yn y swydd hon yn awr. Mae’r cynllun wedi fy helpu i gael sgiliau newydd am oes a byddwn yn argymell y cynllun hwn yn gryf i rywun sydd angen unrhyw hyfforddiant. Hyd yn oed yn ystod yr amser ansicr hwn, mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi bod wrth law bob amser i ateb unrhyw gwestiynau. Ers cwblhau fy nghwrs cerbydau nwyddau trwm, mae’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn well i mi. Unwaith eto, llawer o ddiolch i bawb yn Cymunedau am Waith a Mwy.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth, Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn eithriadol o heriol i bawb ac mae bygythiad diswyddiadau wedi rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar rai. Felly, mae’n galonogol clywed sut y mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi helpu Archie i ddysgu sgiliau newydd, sicrhau swydd sy’n fwy sefydlog a chael cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith o ganlyniad i hynny. Rwy’n gobeithio y bydd yn annog eraill i gysylltu â’r tîm.”

Prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael ei gyflenwi gan Gyngor Sir Ceredigion yw Cymunedau am Waith a Mwy. Mae’n cefnogi unigolion mewn tlodi neu mewn perygl o fod mewn tlodi, 16 oed neu fwy, yng Ngheredigion a ledled Cymru. Gall cyfranogwyr fod yn profi tlodi mewn gwaith, diweithdra, yn byw ar yr isafswm cyflog neu’n ei chael yn anodd talu biliau misol sylfaenol ar gontract dim oriau afreolaidd.

Mae Mentoriaid yn darparu cefnogaeth 1:1 i gyfranogwyr lunio CVs, ymgymryd â ffug gyfweliadau, uwchsgilio ac ariannu amrywiaeth eang o hyfforddiant gan gynnwys cymorth i ddechrau eu busnes eu hunain.

Os ydych yn meddwl y gallai’r prosiect eich helpu chi neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm ar 01545 574193 neu e-bostiwch TCC-EST@ceredigion.gov.uk.

 

05/08/2021