Yn dilyn yr eitem newyddion yn gynharach am yr heriau sy'n deillio o ymchwydd sydyn mewn twristiaeth, rydym yn ddiolchgar iawn bod nifer o safleoedd carafanau a gwersylla wedi cau. Mae'r penwythnos yma wedi gweld mewnlifiad uchel o ymwelwyr a mae’r penderfyniad yma gan berchnogion busnes yn helpu i atal y llif o bobl i mewn i'r ardal ar adeg pan fydd gwasanaethau o dan straen.

Rydym yn ymwybodol y bydd hwn yn benderfyniad anodd i berchnogion busnes. Fodd bynnag, dyma'r penderfyniad iawn o gofio y bydd pobl sy'n aros gartref yn eu hardaloedd eu hunain yn helpu i leihau lledaeniad y firws ac yn achub bywydau.

Y safleoedd carafanau a gwersylla y cawsom ein hysbysu amdanynt sydd wedi cau yw:
• Arfordir Cambria, Ynyslas
• Bae Clarach, Clarach
• Bardsey View, Mydroilyn
• Brynowen, Borth
• Erwbarfe, Pontarfynach
• Glampio Brynllwyd, Pont y diafol
• Golff a Chlwb Gwledig Penrhos, Llanrhystud
• Ocean View, Clarach
• Parc carafanau a gwersylla Blaenwaun, Mwnt
• Parc Carafanau Hafod Brynog, Ystrad Aeron
• Parc Carafanau Llanina, Llanarth
• Pentref Gwyliau Aberystwyth, Aberystwyth
• Quay West, Cei newydd
• Sea Rivers, Llandre

Cynghorwn yn gryf i bob safle carafanau a gwersylla ddilyn eu hesiampl. Hwn fyddai'r cam gweithredu mwyaf cyfrifol a phriodol o dan yr amgylchiadau. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn derbyn arian yn seiliedig ar ffigurau poblogaeth aelwydydd. Gallai'r safleoedd hyn gynyddu'r boblogaeth gan 50% arall yng Ngheredigion ac felly achosi i'r seilwaith ddymchwel. Mae angen i holl berchnogion y gwersylloedd weithredu'n gyflym ac ar frys.

DIWEDDARIAD 24.03.2020 @ 2YP

Gallwn gadarnhau fod y meysydd Carafanau a Gwersyllfa canlynol wedi cau:
• Parc Carafanau Aeron View, Blaenpennal, Aberystwyth
• Dolau Afon, Llanafan, Aberystwyth
• Bay View, Ceinewydd
• Parc Carafanau Penywern, Y Gors, Aberystwyth
• Parc Carafanau Brownhill, Pentre'r Bryn, Llandysul
• Parc Schooner, Ceinewydd, Ceredigion
• Parc Carafanau Wern Mill, Gilfachrheda, Ceinewydd
• Bargoed, Llwyncelyn, Aberaeron
• Treberfedd, Dihewyd, Llanbedr Pont Steffan
• Carafanau ar bwys Clwb Cychod Teifi, Coronation Drive, Gwbert
• Parc Preswyl a Charafanau Midfield, Tollborth y De, Aberystwyth
• Brynawelon, Sarnau, Llandysul
• Parc Cabanau Gwyliau Woodlands, Pentref Gwyliau Woodlands, Gilfachrheda, Ceinewydd
• Westside, Llanarth
• Esgaireithin, Tresaith, Aberteifi
• Cryngae Mawr, Blaenannerch, Aberteifi
• Parc Carafanau Woodlands, Heol-Y-Mor, Llanon
• Parc Carafanau Quay West, Gwersyll Gwyliau (Preifat), Ceinewydd
• Y Swyddfa, Pentref Gwyliau Aberystwyth (Preifat), Penparcau, Aberystwyth
• Parc Carafanau Troedrhiwgam, Llangrannog, Llandysul
• Bronfre Fach, Ciliau Aeron, Llanbedr Pont Steffan
• Gwersyll Celaeron, Fferm Penrhiw, Ciliau Aeron, Llanbedr Pont Steffan
• Tyngwndwn, Cilcennin, Llanbedr Pont Steffan
• The Yurt Farm, Crynfryn, Penuwch, Tregaron
• Cwmsaeson, Derwengam, Llanarth
• Parc Carafanau Willows, Aberporth, Aberteifi
• Blaenwaun, Y Ferwig, Aberteifi
• Parc Carafanau Hafod Brynog, Ystrad Aeron, Felinfach, Llanbedr Pont Steffan
• Parc Carafanau Tymawr, Ynyslas, Borth
• Ystrad Teilo, Llanrhystud
• Parc Carafanau Y Fron, Lon Brynowen,Y Borth
• Parc Carafanau Wide Horizons, Ffordd Aberteifi, Aberaeron
• Talywerydd, Sarnau, Llandysul
• Tredafydd, Sarnau, Llandysul
• Pantclynhir, Cross Inn, Llandysul
• Parc Carafanau Sea Rivers, Ynyslas, Y Borth
• Parc Carafanau Riverside, Lon Glan-Fred, Llandre, Bow Street
• Parc Carafanau Quay View, Ceinewydd
• Parc Carafanau Cei Bach, Ceinewydd
• Parc Carafanau Pengarreg, Llanrhystud
• Parc Carafanau Pilbach, Rhydlewis, Llandysul
• Parc Carafanau Penlon, Pentre'r Bryn, Ceinewydd
• Parc Carafanau Ocean Heights, Maenygroes, Ceinewydd
• Parc Carafanau Ocean View, Clarach, Aberystwyth
• Parc Carafanau Northfield, Northfield, Y Borth
• Parc Carafanau, Fferm Neuadd, Ceinewydd
• Parc Carafanau Green Meadow, Clarach, Aberystwyth
• Parc Carafanau Golden Sands, Canolfan Wyliau Golden Sands, Y Borth
• Parc Carafanau The Village, Cross Inn, Llandysul
• Parc Hamdden Glan Y Môr, Clarach, Aberystwyth
• Parc Carafanau, Glanleri, Glanwern, Y Borth
• Carafan Fronllyn, Trisant, Aberystwyth
• Frongoy, Pennant, Llanon
• Frondeg, Gilfachrheda, Ceinewydd
• Ysgol Farchogaeth Rheidol, Felin Rhiwarthen, Capel Bangor, Aberystwyth
• Parc Carafanau Erwbarfe, Pontarfynach, Aberystwyth
• Fferm Drefnewydd Farm, Aberaeron
• Dyffryn Arth, Cross Inn, Llanon
• Parc Carafanau, Dolgelynen, Aberporth, Aberteifi
• Woodland Hideaway Park, Glynarthen, Llandysul
• Pentref Gwyliau Clarach Bay, Clarach, Aberystwyth
• Parc Gwyliau Cenarth Falls, Cenarth, Castellnewydd Emlyn
• Parc Carafanau Cambrian Coast, Ynyslas, Y Borth
• Parc Caerfelin, Ffordd Ysgolig, Aberporth, Aberteifi
• Caereithin, Parc Gwyliau The Village, Cross Inn, Llandysul
• Parc Carafanau Bryn Y Gors, Pontrhydfendigaid, Ystrad Meurig
• Bay View, Ceinewydd
• Bwlch Crwys, Tanygroes, Aberteifi
• Parc Carafanau Brynrodyn, Y Borth
• Bryncarnedd, Aberystwyth
• Parc Carafanau Brynarian, Cross Inn, Llanon
• Parc Carafanau Brownhill, Pentre'r Bryn, Llandysul
• Brongwyn Mawr, Penparc, Aberteifi
• Parc Carafanau Beachside, Clarach, Aberystwyth
• Parc Gwyliau Bardsey View, Mydroilyn, Llanbedr Pont Steffan
• Abercoed, Tregaron
• Woodlands, Pontarfynach
• Parc Carafanau Ty Graig, Llancynfelin
• Penralltwen, Cross Inn, Llandysul
• Parc Carafanau Tydu Vale, Cwmtydu, Llwyndafydd, Llandysul
• Esger Caravan, Talgarreg, Llandysul, Ceredigion, Llandysilio-Gogo, Llandysiliogogo
• Traethgwyn House, Gwersyll Gwyliau (Preifat) Ceienwydd
• Ty Towyn, Gwbert, Aberteifi
• Pantclynhir, Cross Inn, Llandysul, Ceredigion, Llandysilio-Gogo, Llanllwchaiarn
•Glampio Brynllwyd, Pontarfynach 

•Maes Carafanau Neuadd, Cei Newydd

Hwn fydd y diweddariad a’r rhestr olaf ar y mater. cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fesurau i orfodi cau’r meysydd hyn, ac fe fyddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa gyda’r ychydig feysydd sydd yn weddill.

22/03/2020