Bydd y ffyrdd trwy drefi Ceredigion yn ailagor yr wythnos nesaf cyn dechrau’r tymor ysgol newydd.

Ar ôl 05 Medi 2021, bydd y trefniant o gau ffyrdd yn ddyddiol yn dod i ben yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd, ynghyd â’r trefniant 24 awr y dydd i gau Stryd y Farchnad, Aberystwyth, a hynny wrth i ni ragweld y bydd nifer yr ymwelwyr yn ein trefi yn gostwng wrth i'r haf ddod i ben.

Fodd bynnag, bydd elfennau eraill o’r Parthau Diogel yn parhau mewn grym am y tro, gan gynnwys y trefniadau amgen ar gyfer llif y traffig a’r llwybrau troed lletach, a fydd yn galluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol rhesymol wrth grwydro’r trefi. Bydd hefyd yn galluogi’r Cyngor i ymateb yn sydyn os bydd cyfnodau clo pellach yn cael eu cyflwyno.

Mae’r coronafeirws yn parhau yn fygythiad yn ein cymunedau ac mae cyfraddau heintio yn codi’n ddramatig ymhob rhan o’r sir. O ganlyniad, mae’r Parthau Diogel yn parhau i fod yn fesur hollbwysig i alluogi pobl i grwydro’r strydoedd yn rhydd ac yn ddiogel heb deimlo eu bod mewn perygl o ddod i gysylltiad â’r feirws mewn unrhyw ffordd.

Cefndir ac Ymgynghori

Cyflwynwyd y Parthau Diogel yn wreiddiol ym mis Gorffennaf 2020 yn rhan o ymateb y Cyngor i'r pandemig byd-eang a’i ymdrechion i gadw trigolion ac ymwelwyr yn ddiogel yn ystod y cyfnodau prysur i dwristiaeth.

Casglwyd sylwadau ac adborth trigolion ac ymwelwyr Ceredigion yn ystod ac ar ôl eu cyflwyno yn 2020. O ganlyniad, cyflwynwyd addasiadau iddynt cyn y tymor twristiaeth yn 2021.

Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i gysylltu â busnesau sydd wedi manteisio ar y trefniant o gau ffyrdd trwy greu ardaloedd eistedd yn yr awyr agored i bobl fwynhau. Byddwn hefyd yn trafod opsiynau â busnesau er mwyn cefnogi hyfywedd economi ein trefi yn y dyfodol.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus arall yn cael ei gynnal ar y Parthau Diogel yn ystod y misoedd nesaf i asesu eu heffaith a chasglu syniadau ar gyfer y ffordd orau ymlaen i’n trefi.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar y parthau diogel yng Ngheredigion ar ein gwefan: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/parthau-diogel

 

27/08/2021