Mae busnes yng Ngheredigion wedi cael ei gau am dorri rheoliadau’r Coronafeirws.

Mae Hysbysiad cau wedi'i gyflwyno i Tafarn Ffostrasol Arms yn Ffostrasol, Llandysul gan Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd oherwydd diffyg cydymffurfio parhaus â Rheoliadau Coronafeirws. Roedd hysbysiad gwella wedi'i gyflwyno i'r safle o'r blaen, ond sefydlwyd bod tramgwyddau pellach o'r rheoliadau wedi'u nodi ac er mwyn diogelu'r cyhoedd, penderfynwyd cau'r safle. Bydd Tafarn Ffostrasol Arms yn aros ar gau hyd nes y gallant ddangos eu bod wedi gwneud gwelliannau ac yn bodloni gofynion rheoliadau’r Coronafeirws.

Mae Cyngor Sir Ceredigion, gyda chefnogaeth Heddlu Dyfed-Powys, wedi cynyddu eu gorfodaeth o ran busnesau sy'n methu â chadw eu cwsmeriaid yn ddiogel a sicrhau nad yw achosion Covid-19 yn cynyddu yn y Sir.

Ceir tystiolaeth gynyddol ledled y wlad, lle nad oes digon o reoli, bod tafarndai, clybiau a bariau yn cynyddu'r risg y bydd Covid-19 yn lledaenu yn y gymuned. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi hysbysiadau cau pellach, lle bo angen, i sicrhau cydymffurfio â'r rheoliadau.

Bydd y Cyngor yn bendant yn gweithredu os darganfyddir bod unrhyw fusnes yn euog o dorri rheoliadau Covid-19. Er mwyn diogelu'r cyhoedd, mae angen i bob busnes sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r rheoliadau drwy’r amser.

Mae hysbysiadau gwella hefyd yn cael eu cyflwyno i fusnesau yn eu cynghori i weithredu neu wynebu canlyniadau tebyg. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn falch o weld bod cymaint o fusnesau yn gweithredu'n dda i ddarparu amgylchedd diogel i'w cwsmeriaid. Mae llawer o'r busnesau yr ymwelwyd â hwy yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi gwneud gwelliannau pellach yn dilyn derbyn cyngor gan Dîm Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor Sir.

Yn ystod yr ymweliadau cydymffurfio, mae swyddogion yn sicrhau bod busnesau'n cydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, ac mae ganddynt y pŵer i gau safleoedd, gorfodi gwelliannau neu adolygu’r drwydded neu dystysgrif safle’r clwb.

Rhaid i bob tafarn a chlwb sicrhau’r canlynol:

  • Bod system Profi, Olrhain, Diogelu ar waith er mwyn cofnodi'n gywir bob ymweliad â'r safle fel y gellir cysylltu â chwsmeriaid yn hawdd os bydd achos cadarnhaol yn cael ei gysylltu â'r lleoliad. Mae hyn yn cynnwys enw a rhif ffôn y cwsmeriaid.
  • Bod pellter cymdeithasol o 2 fetr yn cael ei gynnal, gydag arwyddion digonol, bod pellter digonol rhwng y byrddau a’r seddau, a gweithdrefnau ar waith ar gyfer rheoli mannau cerdded ac ardal y toiledau.
  • Rhaid i bob safle ddarparu gwasanaeth wrth y byrddau yn unig h.y. dim archebu wrth y bar.
  • Rhaid bwyta ac yfed wrth y byrddau yn unig.
  • Nid yw cwsmeriaid i yfed a sefyll wrth y bar.
  • Rhaid i gwsmeriaid eistedd yn y safle heblaw pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod ger y bar, wrth gael eu gweini bwyd neu ddiod, ac wrth fwyta bwyd neu ddiod.
  • Nid oes cerddoriaeth fyw, a bod cerddoriaeth wedi’i recordio ond yn cael ei chwarae yn isel yn y cefndir.
  • Rhaid i fusnesau lletygarwch, gan gynnwys tafarndai, caffis, bwytai a chasinos, roi'r gorau i werthu/cyflenwi alcohol am 10.00pm gan gau am 10.20pm.

Daeth Hysbysiad Cau Tafarn Ffostrasol Arms i rym ar 15 Hydref 2020 am 16:40 a gellir ei weld ar dudalen gwe y Coronafeirws o dan ‘Hysbysiadau Gwelliant a Cau’: www.ceredigion.gov.uk/Coronafeirws

Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/busnes/covid-19-cefnogi-economi-ceredigion/

Anogir unrhyw fusnes nad yw’n sicr o'i gyfrifoldebau i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru: llyw.cymru/cymryd-pob-mesur-rhesymol-i-leihaur-risg-o-ddod-i-gysylltiad-ar-coronafeirws-mewn-gweithleoedd

Gall unrhyw fusnes sydd angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad gysylltu â Thîm Trwyddedu'r Cyngor ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk

16/10/2020