Mae busnes yng Ngheredigion wedi cael ei gau am dorri rheoliadau’r Coronafeirws.

Mae hysbysiad cau wedi’i gyflwyno gan swyddogion o Dîm Diogelu'r Cyhoedd i ‘The Mill Inn’, Dan Dre, Aberystwyth. Bydd ‘The Mill Inn’ yn aros ar gau hyd nes y gallant ddangos eu bod wedi gwneud gwelliannau ac yn bodloni gofynion rheoliadau’r Coronafeirws.

Mae Cyngor Sir Ceredigion, gyda chefnogaeth Heddlu Dyfed-Powys, wedi cynyddu eu gorfodaeth o ran busnesau sy'n methu â chadw eu cwsmeriaid yn ddiogel a sicrhau nad yw achosion Covid-19 yn cynyddu yn y Sir.

Ceir tystiolaeth gynyddol ledled y wlad, lle nad oes digon o reoli, bod tafarndai, clybiau a bariau yn cynyddu'r risg y bydd Covid-19 yn lledaenu yn y gymuned. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi hysbysiadau cau pellach, lle bo angen, i sicrhau cydymffurfio â'r rheoliadau.

Bydd y Cyngor yn bendant yn gweithredu os darganfyddir bod unrhyw fusnes yn euog o dorri rheoliadau Covid-19. Er mwyn diogelu'r cyhoedd, mae angen i bob busnes sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r rheoliadau drwy’r amser.

Mae hysbysiadau gwella hefyd yn cael eu cyflwyno i fusnesau yn eu cynghori i weithredu neu wynebu canlyniadau tebyg. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn falch o weld bod cymaint o fusnesau yn gweithredu'n dda i ddarparu amgylchedd diogel i'w cwsmeriaid. Mae llawer o'r busnesau yr ymwelwyd â hwy yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi gwneud gwelliannau pellach yn dilyn derbyn cyngor gan Dîm Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor Sir.

Yn ystod yr ymweliadau cydymffurfio, mae swyddogion yn sicrhau bod busnesau'n cydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, ac mae ganddynt y pŵer i gau safleoedd, gorfodi gwelliannau neu adolygu’r drwydded neu dystysgrif safle’r clwb.

Rhaid i bob tafarn a chlwb sicrhau’r canlynol:
• Bod system Profi, Olrhain, Diogelu ar waith er mwyn cofnodi'n gywir bob ymweliad â'r safle fel y gellir cysylltu â chwsmeriaid yn hawdd os bydd achos cadarnhaol yn cael ei gysylltu â'r lleoliad. Mae hyn yn cynnwys enw a rhif ffôn y cwsmeriaid.
• Bod pellter cymdeithasol o 2 fetr yn cael ei gynnal, gydag arwyddion digonol, bod pellter digonol rhwng y byrddau a’r seddau, a gweithdrefnau ar waith ar gyfer rheoli mannau cerdded ac ardal y toiledau.
• Rhaid i bob safle ddarparu gwasanaeth wrth y byrddau yn unig h.y. dim archebu wrth y bar.
• Rhaid bwyta ac yfed wrth y byrddau yn unig.
• Nid yw cwsmeriaid i yfed a sefyll wrth y bar.
• Nid yw cwsmeriaid i yfed alcohol tra'n sefyll, oni bai eu bod yn sefyll wrth fwrdd tal - ym mhob achos arall rhaid eu bod eistedd.
• Nid oes cerddoriaeth fyw, a bod cerddoriaeth wedi’i recordio ond yn cael ei chwarae yn isel yn y cefndir.
• Bydd yn rhaid i fusnesau lletygarwch, gan gynnwys tafarndai, caffis, bwytai a chasinos, gau am 10pm (yn dod i rym ddydd Iau, 24 Medi am 6pm).

Daeth Hysbysiad Cau Busnes ‘The Mill Inn’ i rym ar 22 Medi 2020 am 21:00 a gellir ei weld ar dudalen gwe y Coronafeirws o dan ‘Hysbysiadau Gwelliant a Cau’.

Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar wefan y Cyngor.

Anogir unrhyw fusnes nad yw’n sicr o'i gyfrifoldebau i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gall unrhyw fusnes sydd angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad gysylltu â Thîm Trwyddedu'r Cyngor ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk

23/09/2020