Yn rhan o Caru Ceredigion, gall pawb chwarae eu rhan i helpu i gadw ein sir yn lân.

Wrth i rai o gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio, mae rhai llefydd wedi gweld miloedd o bobl yn heidio i’r traethau - gan adael tunelli o sbwriel ar eu hôl!

Er bod rhai o gyfyngiadau COVID-19 yn cael eu llacio, mae gwasanaethau’r Cyngor yn dal i geisio ymdopi â’r pwysau ychwanegol a gyflwynwyd gan y Coronafeirws, ond gan gadw ein cymunedau a’n staff yn ddiogel a chadw Ceredigion yn lân ar yr un pryd.

Dyma rai pethau syml y gall pawb eu gwneud i helpu:

• Defnyddio bin sbwriel os oes un ar gael, neu fynd â’ch sbwriel adref gyda chi. Ailgylchwch ef os gallwch chi.
• Clirio ar ôl eich ci...Eich Ci Eich Cyfrifoldeb! Cofiwch y gellir rhoi bagiau baw ci mewn unrhyw fin sbwriel cyffredinol ar y stryd yng Ngheredigion.
• Cyflwyno’r gwastraff cywir yn y ffordd gywir erbyn 08:00am ar y diwrnod cywir. Mae hyn yn cynnwys ailgylchu cymaint o’ch gwastraff â phosib drwy wneud defnydd llawn o’r gwasanaethau casglu bagiau ailgylchu clir, gwastraff cadi bwyd a bocsys gwydr. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/biniau-ac-ailgylchu.

Drwy wneud y pethau bach hyn, byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r amgylchedd yn ogystal â pheidio â rhoi’r rhai sy'n gorfod glanhau mewn perygl yn ddiangen.

Mae pentrefi, trefi, arfordir, afonydd, llynnoedd, coedwigoedd a chefn gwlad Ceredigion yn syfrdanol o hardd - gadewch inni eu cadw felly.

Diolch am chwarae eich rhan ac am weithio gyda ni i gadw Ceredigion yn lân!

13/07/2020