Mae David Davies, 61 oed, ac Evan Meirion Davies, 50 oed, o Fferm Penffynnon, Bangor Teifi, Llandysul, wedi cael eu carcharu am 24 wythnos yr un ar ôl iddynt wrthod cydymffurfio â gorchymyn llys blaenorol a oedd yn eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid am bum mlynedd.

Wrth ymddangos o flaen y Barnwr Parsons yn Llys yr Ynadon yn Aberystwyth ar 25 Chwefror 2020, plediodd y ddau ddyn yn ddieuog i’r cyhuddiad eu bod, rhwng 31 Rhagfyr 2019 a 27 Ionawr 2020, wedi mynd yn groes i waharddiad rhag perchen ar anifeiliaid, cadw anifeiliaid, neu ymwneud â chadw anifeiliaid. Roedd y brodyr wedi cael eu gwahardd yn wreiddiol dan adran 34 Deddf Lles Anifeiliaid 2006 ar ôl iddynt gael eu barnu’n euog a’u dedfrydu ar 14 Chwefror 2019, a hynny’n gysylltiedig â marwolaeth nifer o wartheg ar eu fferm.

Y Cynghorydd Gareth Lloyd yw’r aelod Cabinet dros Gyllid a Diogelu’r Cyhoedd. Dywedodd: “Dro ar ôl tro, mae’r ddau frawd wedi anwybyddu gorchymyn llys sy’n eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid. Rhoddwyd y gorchymyn hwn gan y llys yn wreiddiol oherwydd iddynt esgeuluso eu hanifeiliaid yn ddifrifol, a bu i 58 o wartheg farw’n araf ac yn ddiangen o ganlyniad i hynny. Roedd yr hyn a welodd staff y cyngor, milfeddygon, swyddogion yr heddlu a chontractwyr ar y pryd yn erchyll. Byddai’n llawer gwell gan y Cyngor pe byddai’r brodyr wedi ufuddhau i’r gorchymyn, ond mae’r ffaith eu bod wedi gwrthod yn llwyr â chydymffurfio wedi peri iddynt golli eu rhyddid a’u hawl i gadw’r da byw sy’n weddill.”

Ar ôl derbyn tystiolaeth gan Gyngor Sir Ceredigion, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a’r brodyr eu hunain, dyfarnodd y barnwr y ddau frawd yn euog a rhoddwyd dedfryd o garchar ar unwaith. Dyfarnodd y barnwr bod y drosedd mor ddifrifol am iddynt anwybyddu gorchmynion y Llys yn llwyr a mynd yn groes i’r gwaharddiad dro ar ôl tro. Cyflawnwyd y drosedd hefyd yn groes i’r ddedfryd o garchar wedi’i gohirio a roddwyd pan gawsant eu dyfarnu’n euog y tro cyntaf.

Aeth y Cynghorydd Lloyd yn ei flaen, “Mae hwn yn achos anghyffredin ac eithriadol, ac mae’n gwbl groes i’r gofal o safon uchel y mae mwyafrif helaeth o ffermwyr Ceredigion yn ei ddarparu i’w hanifeiliaid. Mae’r achos hwn wedi bod yn heriol i bob asiantaeth oedd yn gysylltiedig, ac rwy’n hynod o ddiolchgar i’n staff, ein hasiantaethau partner a’r llysoedd am eu hamynedd a’u proffesiynoldeb wrth ddod â’r mater hwn i ben.”

Yn ogystal â’r ddedfryd o garchar, gorchmynnodd y llys y dylid rhoi gwartheg y fferm ym meddiant Cyngor Sir Ceredigion. Gorchmynnodd y llys hefyd bod Mr D. Davies a Mr E. M. Davies yn ad-dalu Cyngor Sir Ceredigion am y costau ynghlwm â gweithredu’r Gorchmynion Llys, yn talu tâl ychwanegol o £112 i ariannu gwasanaethau i ddioddefwyr ac yn talu £425 o gostau.

02/03/2020