Bydd y sinema leiaf mewn carafán theatr ar y Prom yn Aberystwyth am dri phrynhawn Sadwrn yn ystod yr haf.

Bydd staff o Amgueddfa Ceredigion, ynghyd â Chyfeillion Amgueddfa Ceredigion, yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau hwyliog yn rhad ac am ddim yn y garafán theatr ac o’i hamgylch ar 28 Gorffennaf, 04 Awst a 11 Awst rhwng 12yp a 4yp.

Yn ôl Sarah Morton, Trefnydd Digwyddiadau Amgueddfa Ceredigion, “Mae gennym gyfres o ffilmiau lleol byr o’r Archif Ffilm a Sgrin Genedlaethol sy’n cysylltu â’n harddangosfa haf, sef glan y môr, yn ein hamgueddfa yn yr Hen Golisewm. Mae’r ffilmiau dwy funud yn dangos pobl ar y traeth a’r prom yn Aberystwyth yn ogystal â’r Borth. Bydd y Showtime Singers hefyd yn canu gan ychwanegu at yr adloniant. Byddwn wedi’n lleoli yn y bandstand neu’n agos iddo, ac rydym yn gobeithio ail-greu rhai o draddodiadau gwyliau glan y môr.”

Yn ogystal â’r garafán theatr, cynhelir digwyddiad Dyfalu’r Gwrthrych yn y bandstand, lle bydd staff o’r amgueddfa yn eich helpu i ddyfalu beth yw’r gwrthrychau dirgel.

Am ragor o fanylion am y garafán a’r adloniant, cysylltwch â Sarah Morton yn Amgueddfa Ceredigion ar 01970 633088.

18/07/2018