Ar ddydd Llun 9 Medi, bu’r Dream Team yn ymweld â staff a defnyddwyr y gwasanaeth, yng Nghanolfan Cymorth Cymunedol Canolfan Meugan ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu a phobl hŷn, i arddangos 'Fy Siarter'. Ysgrifennwyd 'Fy Siarter' Anableddau Dysgu yng ngorllewin Cymru gan bobl sydd ag anableddau dysgu yng ngorllewin Cymru.

Mae'r Dream Team yn cynnwys y bobl a ysgrifennodd y Siarter. Mae'r Siarter yn dweud bod pobl sydd ag anableddau dysgu am gael mwy o gyfleoedd mewn bywyd, mwy o ddewis a chael rhywun i wrando arnynt. Mae hefyd yn dweud bod pobl sydd ag anableddau dysgu am gael eu trin fel oedolion, i gael urddas a pharch ac i'w gwybodaeth gael ei chadw'n breifat.

Anogir sefydliadau, busnesau ac unigolion i ddangos eu cefnogaeth drwy ymuno â'r Siarter.

Ewch i https://www.ldcharter.com/fy-siarter/ i gael rhagor o wybodaeth am 'Fy Siarter'.

19/09/2019