Croesawyd ymwelwyr o Dref Yosano, Japan i Ganolfan Bwyd Cymru ddydd Mercher, 07 Tachwedd, 2018.

Dan arweiniad Maer Tref Yosano, Toma Yamazoe, roedd y grŵp yn ymweld â Cheredigion fel rhan o ymweliad cyfnewid diwylliannol.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio, a groesawodd yr ymwelwyr i Ganolfan Bwyd Cymru, “Roeddem wrth ein bodd yn croesawu ein hymwelwyr o Yosano i Ganolfan Bwyd Cymru. Wrth rannu gwybodaeth, roedd yn amlwg y gallai diddordeb cynyddol Japan yn y diwydiant bwyd gynrychioli cyfle, yn enwedig ar gyfer gweithgynhyrchwyr caws a chwrw sy'n gleientiaid Canolfan Bwyd Cymru.”

Ymunodd pump o fyfyrwyr a dau swyddog o Gyngor Tref Yosano â Mr Yamazoe. Roedd gan y grŵp ddiddordeb arbennig mewn dysgu sut mae Canolfan Bwyd Cymru yn cefnogi busnesau bwyd newydd i dyfu. Roedd Mr Yamazoe a'i grŵp yn edrych ar syniadau am sut y gallant gefnogi cynhyrchwyr reis a sidan ar raddfa fach, sy'n ffurfio asgwrn cefn yr economi wledig yn eu hardal hwy o Japan.

Parhaodd y Cynghorydd Evans, “Bydd creu cysylltiadau rhyngwladol fel y rhain yn gynyddol bwysig i'r diwydiant bwyd yng Ngheredigion.”

 

08/11/2018