Enillodd Matthew Woolfall Jones y mwyafrif o'r pleidleisiau yn is-etholiad Llanbadarn Sulien a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 18 Gorffennaf 2019.

Bydd Matthew, o Plaid Cymru, bellach yn cynrychioli'r ward fel Cynghorydd y sir ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion.

Daeth y swydd yn wag yn dilyn marwolaeth drasig y diweddar Paul James ym mis Ebrill 2019.

Y nifer a bleidleisiodd ar gyfer yr etholiad oedd 38.16% gyda 63% o’r pleidleisiau yn mynd i Matthew Woolfall Jones. Bydd e’n dechrau yn ei swydd yn y dyddiau nesaf.

Ewch i https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/etholiadau-a-chofrestru-etholiadol/ am fwy o fanylion ac i weld y canlyniadau llawn.

 

19/07/2019