Etholwyd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan yn ystod isetholiad ward Llanbedr Pont Steffan a gynhaliwyd ddydd Iau, 06 Hydref 2022.

Bydd y Cynghorydd o Blaid Cymru yn cynrychioli'r ward fel Cynghorydd y sir ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion.

Daeth y swydd yn wag yn dilyn marwolaeth sydyn y diweddar Hag Harris ym mis Mai 2022.

Y nifer a bleidleisiodd ar gyfer yr etholiad oedd 42% gyda 39.2% o’r pleidleisiau yn mynd i'r Cynghorydd Ann Bowen Morgan. Bydd yn dechrau yn ei swydd yn y dyddiau nesaf.

Ewch i dudalen We'r Cyngor: Isetholiad Llanbedr Pont Steffan am fwy o fanylion ac i weld y canlyniadau’n llawn.

07/10/2022