Mae canllawiau wedi cael eu rhyddhau ar gyfer siopau trin gwallt a siopau barbwr i sicrhau diogelwch o’r radd flaenaf wrth iddynt ailagor yn unol â rheoliadau COVID-19.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i ganiatáu busnesau trin gwallt a barbwr i ailagor ar sail apwyntiadau yn unig o 15 Mawrth 2021.

Er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau, rhaid dilyn y rheolau canlynol:

  • Gall siopau trin gwallt a barbwr agor ar gyfer apwyntiadau yn unig. Ni chaniateir galw i mewn heb apwyntiad.
  • Ni chaniateir triniaeth blew’r wyneb.
  • Rhaid cadw pellter cymdeithasol o 2m rhwng cleientiaid/gweithfannau, neu 1m gyda deunydd diogelwch ychwanegol tebyg i sgriniau (e.e. rhwng cadeiriau trin gwallt).
  • Rhaid cadw cofnod dros dro o gleientiaid ac ymwelwyr am 21 diwrnod er mwyn gall olrhain cysylltiadau, os bydd angen.
  • Rhaid i bob sterilydd wisgo masg wyneb a feisor sy’n gorchuddio’r wyneb yn llwyr.

Yn ychwanegol at hyn, caniateir i drinwyr gwallt symudol fynd i mewn i gartref cleient nawr, ond dim ond lle nad oes opsiwn rhesymol, ymarferol arall i gynnal apwyntiad cartref. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru o’r farn nad oes yna opsiwn rhesymol, ymarferol arall i gynnal apwyntiad cartref pan na all cleient adael ei gartref ei hun, neu lle bo hynny’n anodd iddo.

Mae canllawiau pellach ar gyfer busnesau trin gwallt a barbwr ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Gallwch hefyd lawrlwytho poster yn cynnwys y canllawiau diweddaraf oddi ar wefan y Cyngor: Deunyddiau y gellir eu lawrlwytho.

Rhaid i ni gyd barhau i ddilyn y rheolau i gadw ein hunain, ein teuluoedd, ein ffrindiau a’n cymunedau yn ddiogel bob amser. Cofiwch gadw pellter diogel, golchi eich dwylo yn rheolaidd a gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau cyhoeddus dan do.

Cofiwch fod y coronafeirws dal yma. Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, ni waeth pa mor ysgafn ydynt, rhaid i chi hunanynysu gartref a threfnu prawf ar unwaith, gan adael eich cartref i fynd am brawf yn unig. Gallwch archebu prawf ar-lein neu trwy ffonio 119.

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor am y coronafeirws ar gael ar dudalennau coronafeirws y Cyngor.

Gyda’n gilydd gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

23/03/2021