Caniatawyd i The Mill Inn yn Aberystwyth ailagor ar ôl gwella eu gweithdrefnau a'u cyfleusterau mewn ymateb i hysbysiad cau a gyflwynwyd fis diwethaf.

Ar 22 Medi, mynnodd Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd o Gyngor Sir Ceredigion bod y dafarn yn cau ar ôl achosion honedig o dorri Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.

Ers cyflwyno’r hysbysiad cau, mae perchnogion y dafarn wedi bod yn gweithio gyda Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd i wneud gwelliannau, gan gynnwys cyflwyno terfyn ar gapasiti'r lleoliad, sicrhau bod pellter cymdeithasol rhwng seddau a gwella’r broses o gasglu manylion olrhain cyswllt. Caniatawyd i'r fangre ailagor gan fod Swyddogion bellach yn fodlon bod gwelliannau digonol wedi'u gwneud i sicrhau bod y safle a'r staff yn cydymffurfio â chyfyngiadau’r coronafeirws.

05/10/2020