Ar 31 Hydref 2022, cafodd Mr. William Lloyd Jenkins, un o gyfarwyddwyr Jenkins Tŷ Hen Cyf, sy’n rhedeg y fferm laeth yn Nhŷ Hen, Y Ferwig ei ddedfrydu gan ynadon yng Nghanolfan Gyfiawnder Aberystwyth.

Plediodd Mr. Jenkins yn euog i wyth trosedd o dan Reoliadau Adnabod Gwartheg 2007 ac un drosedd o dan Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010. 

Clywodd yr Ynadon sut yr oedd Mr. Jenkins dro ar ôl tro ers 2018 wedi methu ag adrodd am farwolaethau gwartheg a symudiadau gwartheg oddi ar ddaliad. Cafwyd mwy na 420 o achosion lle nad oedd y ffermwr wedi rhoi gwybod am wartheg a oedd wedi marw neu wartheg a oedd wedi’u symud oddi ar ddaliad ac roedd hyn yn mynd yn groes i Reoliadau Adnabod Gwartheg 2007. Mae cynnal cofnod cywir o symudiadau anifeiliaid yn hanfodol i reoli afiechydon anifeiliaid a sicrhau hygrededd y gadwyn fwyd. 

Hefyd, plediodd y diffynnydd yn euog i symud buwch a oedd wedi cael adwaith amhendant i brawf TB gan wneud hynny heb drwydded a heb awdurdod oddi wrth yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Mae’r mesurau rheoli hyn yn hanfodol wrth reoli TB mewn gwartheg ac atal y clefyd rhag lledaenu yn y fuches a’r ardal leol.

Clywodd yr ynadon sut yr oedd Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd yng Nghyngor Sir Ceredigion wedi ysgrifennu at Gyfarwyddwyr Jenkins Tŷ Hen Cyf ar nifer o achlysuron ers 2018 i nodi eu bod yn mynd yn groes i’r ddeddfwriaeth ac i’w cynghori o’r gofynion cyfreithiol. Yn anffodus, ni thalwyd sylw i’r cyngor ac ni wnaeth y sefyllfa wella ac felly nid oedd gan y Cyngor fawr ddim dewis ond dod â’r achos gerbron Llys yr Ynadon.

Dirwywyd y cwmni £300 am bob achos o fynd yn groes i’r Rheoliadau Adnabod Gwartheg, a £2000 am fynd yn groes i’r Rheoliadau TB. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Matthew Vaux: “Mae Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd yn cefnogi’r diwydiant amaethyddol yng Ngheredigion drwy ddarparu cyngor ac arweiniad i ffermwyr i fodloni’r safonau cyfreithiol. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, roedd hi’n siomedig na wnaeth y safonau wella. Mae adrodd am symudiadau anifeiliaid yn hanfodol i sicrhau bod modd olrhain da byw, cadw’r gadwyn fwyd yn ddiogel a rheoli afiechydon er mwyn diogelu pob rhan o’r diwydiant amaethyddol yng Ngheredigion.”

 

04/11/2022