Mae ‘Cam Nesa’ yn rhan o Raglen Weithredol Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd ac yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 16 a 24 oed drwy roi opsiynau iddynt gael mynediad at ystod o gymorth personol wedi’i deilwra a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â gwaith i ddiwallu eu hanghenion a’u dyheadau.

Mewn ymateb i bandemig COVID-19, mae tîm ‘Cam Nesa’ Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn brysur yn rhoi pecynnau lles at ei gilydd i’w defnyddwyr. Mae’r pecynnau lles wedi’u rhoi at ei gilydd i gefnogi pobl ifanc a allai fod yn teimlo’n unig, yn ynysig neu’n fregus yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae’r Pecynnau lles wedi cael eu dosbarthu i bobl ifanc yng Ngheredigion yn ystod yr wythnosau diwethaf, dros 3 mis ers i’r pandemig ddechrau a chyflwyno newidiadau mawr i’n ffordd arferol o fyw. Drwy gydol y pandemig mae defnyddwyr hefyd wedi derbyn galwadau wythnosol yn rhan o wasanaeth Cadw mewn Cysylltiad Porth Cymorth Cynnar, a’r gobaith yw y bydd y pecynnau lles yn cefnogi’r gwaith a wnaed eisoes gan y gwasanaeth hwn drwy roi rhywfaint o gysur a sicrwydd i bobl ifanc Ceredigion.

Roedd y pecynnau lles yn cynnwys cylchlythyrau, taflenni, manylion cyswllt pwysig, llythyrau gwybodaeth, posau, papur newydd, hufen dwylo, pêl straen, adnoddau celf a phensiliau lliw i ymlacio, siampŵ/jêl cawod, brws a phast dannedd, cynhyrchion misglwyf, danteithion a cherdyn â dyfyniad ysgogol arno, y cyfan mewn bag cotwm y gellir ei ailddefnyddio.

Dywedodd un defnyddiwr ‘Cam Nesa’ a dderbyniodd becyn lles, “Diolch yn fawr am y pecyn lles. Mae'n garedig iawn diolch yn fawr iawn! ”

Dywedodd defnyddiwr arall “Diolch am y pecyn lles, roeddwn wrth fy modd gyda’i gynnwys, yn enwedig y siocledi”

06/08/2020