Mae Cyngor Sir Ceredigion yn atgoffa trigolion i gadw eu hunain a'u teuluoedd yn ddiogel wrth iddynt ddathlu Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni.
Mae Coronafeirws yn parhau i ledaenu ar draws y Sir, yn enwedig ymhlith pobl ifanc a fydd am fwynhau'r dathliadau eleni.
Mae'r Cyngor, ynghyd ag Heddlu Dyfed-Powys, yn gofyn i drigolion aros gartref i ddathlu er mwyn lleihau trosglwyddiad cymunedol o'r feirws yn ogystal â diogelu ein gwasanaethau brys hanfodol.
Nid yw'r Coronafeirws wedi diflannu ac mae cymryd rhan yn y gweithgareddau Calan Gaeaf traddodiadol fel tric neu trît a phartïon yn peri risg i ledaeniad y Coronafeirws a gofynnwn i chi feddwl am eich penderfyniadau.
Gallwch ddathlu gartref eleni drwy gerfio pwmpenni, gwisgo i fyny, gwneud celf a chrefft ac adrodd straeon.
Ewch i www.mawwfire.gov.uk a www.dyfed-powys.police.uk i ddarllen am ddiogelwch Calan Gaeaf, coelcerthi a thân gwyllt.
Gyda'n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.
27/10/2021