Anogir aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan mewn unrhyw ymgynghoriadau newydd a gyhoeddir gan y Cyngor a lleisio eu barn ar faterion a allai effeithio arnynt yn lleol.

Yn ogystal â dulliau ymgynghori mwy traddodiadol, mae llwyfan wedi’i lansio ar wefan y Cyngor lle gall pobl bori a dod o hyd i’r holl ymgynghoriadau byw sy’n cael eu rhedeg gan Gyngor Sir Ceredigion. Gallwch ddod o hyd i'r porth yma: Dweud Eich Dweud Ceredigion

Yn ystod haf 2022, cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad cyhoeddus ar y polisi Ymgysylltu a Chyfranogi, a elwir yn ‘Siarad, Gwrando a Gweithio Gyda’n Gilydd’. Yn sgil yr adborth, mae’r polisi wedi cael ei ddiweddaru gyda ffocws allweddol ar ymdrechu i wella cyfathrebu ac ymgysylltu â'r cyhoedd ehangach yng Ngheredigion. Mae yna ffocws hefyd ar gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae cyfathrebu ac ymgysylltu â phobl Ceredigion o'r pwys mwyaf i'r Cyngor. Hoffwn annog unrhyw un i gadw llygad allan a chymryd rhan mewn unrhyw ymgynghoriadau a gyhoeddir gan y Cyngor i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed a’ch barn yn cael ei ystyried. Cofiwch fod modd hefyd cysylltu â’r Cyngor am wybodaeth am ymgynghoriadau cyfredol trwy gysylltu â Clic ar 01545 570881 neu ymweld â’r desgiau gwasanaethau cwsmeriaid yn llyfrgelloedd y Cyngor.”

Atgoffir pobl y gallant gael gwybodaeth wrth y desgiau Gwasanaethau Cwsmeriaid yn Llyfrgelloedd Ceredigion, gan gynnwys Llyfrgell Aberystwyth yng Nghanolfan Alun R Edwards, a llyfrgelloedd Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi.

Gellir hefyd gwneud ymholiadau trwy Clic, porth Gwasanaethau i Gwsmeriaid Ceredigion, trwy fynd ar wefan y Cyngor, ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost i clic@ceredigion.gov.uk

04/10/2022