Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd ac yn heriol i ni i gyd, yn enwedig i’r rheini sydd wedi colli anwyliaid a’r rheini sy’n dioddef o Covid hir. Bydd yr hydref a’r gaeaf yn parhau i fod yn heriol i ni i gyd a ninnau ar drothwy tymor y ffliw. Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i gadw ein hunain yn ddiogel ac yn iach a chefnogi ein gwasanaethau iechyd a gofal.

Mae’r pandemig yma o hyd, ac rydym yn nesáu at yr hyn yr ydym yn credu fydd brig y don delta yng Nghymru. Mae nifer yr achosion yn parhau i fod yn uchel yng Ngheredigion, a’r gyfradd bresennol yw 376.9 fesul 100,000 o’r boblogaeth. Mae nifer yr achosion ymhlith pobl dan 25 oed yn parhau i fod yn arbennig o uchel; y gyfradd ar hyn o bryd yw 634.9 fesul 100,000 o’r boblogaeth, a hwn yw ein pryder mwyaf o hyd. Rydym hefyd yn gweld niferoedd uchel yn ardal Rheidol, Ystwyth a Charon (623.6 fesul 100,000 o’r boblogaeth) ac yn ardal Aberaeron a Llanrhystud (591.8 fesul 100,000 o’r boblogaeth).

Wrth inni symud drwy’r hydref a’r gaeaf mae mesurau diogelu allweddol yn parhau i fod ar waith. Mae’n rhaid i ni i gyd wneud y dewisiadau cywir i’n cadw ni’n ddiogel:

  • Ffocws parhaus ar frechu fel y mesur mwyaf effeithiol i’n hamddiffyn rhag niwed. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc 12-15 oed, y rhai sy'n gymwys i gael y brechlyn atgyfnerthu a'r rhai sydd eto i gael dos cyntaf neu ail ddos. Rydym hefyd yn annog cymaint o bobl â phosibl i fanteisio ar y cyfle i gael brechlyn rhag y ffliw.
  • Dylech hunanynysu cyn gynted ag yr ydych yn dechrau dangos unrhyw symptomau ac ar ôl cael canlyniad prawf positif.
  • Mae’n rhaid i fusnesau gynnal asesiad risg Covid a rhoi mesurau rhesymol ar waith i leihau’r risgiau.
  • Gwisgwch fasg mewn mannau cyhoeddus dan do.
  • Cyfyngwch ar eich cyswllt cymdeithasol os yw nifer yr achosion yn uchel yn eich ardal.
  • Gweithiwch gartref lle bo hynny’n bosibl.
  • Golchwch eich dwylo’n rheolaidd.
  • Dylech gwrdd â phobl yn yr awyr agored yn hytrach nag o dan do lle bynnag y bo modd.
  • Sicrhewch fod digon o awyr iach yn dod i mewn i fannau dan do.
  • Cadwch bellter cymdeithasol oddi wrth bobl eraill.
  • Defnyddiwch bàs COVID y GIG i gael mynediad i ddigwyddiadau a lleoliadau penodol.

Mae rhagor o wybodaeth am sut a ble y gallwch gael brechlyn rhag COVID-19 yn ogystal â brechlyn rhag y ffliw ar gael ar:

Rhaglen frechu COVID-19: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/rhaglen-frechu-covid-19/

Brechu ffliw tymhorol: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/imiwneiddio-a-brechu/brechu-ffliw-tymhorol/

Mae Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: hydref a gaeaf 2021 Llywodraeth Cymru i’w weld ar: https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-10/cynllun-rheolir-coronafeirws-diweddariad-hydref-a-gaeaf-2021.pdf

Os ydym ni i gyd yn gwneud ein rhan – fel sefydliadau, cyflogwyr ac unigolion – gallwn edrych tuag at ddyfodol gwell.

13/10/2021