Gyda Ceredigion yn prysuro wrth fynd i mewn i’r haf, bydd Parthau Diogel ar waith i sicrhau bod y strydoedd yn ddiogel i bawb.

Gweithredwyd y Parthau Diogel yn wreiddiol ym mis Gorffennaf 2020 ac ers hynny maent wedi dychwelyd am 2021 yn barod ar gyfer cyfnodau'r Pasg a'r Haf. Fe wnaeth cyfnod y Pasg ganiatáu treialu newidiadau a’u gwella yn dilyn adborth.

Ar hyn o bryd mae cyfraddau heintiau coronafeirws yn isel yng Ngheredigion. Fodd bynnag, gyda disgwyl i fwy o bobl fynd ar wyliau yng Nghymru a Cheredigion yn ystod yr haf, mae angen i ni gael mesurau ar waith sy'n helpu pobl i ymweld â siopau a gwasanaethau yn ein trefi yn ddiogel a chadw cyfraddau'n isel. Mae'r Parthau Diogel hefyd yn caniatáu i fusnesau barhau i fasnachu yn yr awyr agored.

Mae'r mesurau sy'n gysylltiedig â'r Parthau Diogel yn cynnwys ehangu llwybrau troed, gostwng cyrbau, cau ffyrdd, addasu cilfachau parcio ac ardaloedd i fusnesau fasnachu er mwyn caniatáu i bobl gynnal pellter cymdeithasol 2 fetr bob amser. Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd y rhwystrau coch a gwyn yn cael eu disodli'n barod i balmentydd gael eu hadeiladu allan. Bydd hyn yn dechrau gyda phinnau newydd i ddisodli'r rhwystrau ac yna palmant a cherrig palmant newydd.

Mae cau ffyrdd ar gyfer yr haf fel a ganlyn:

  • Aberaeron: Mae’r trefniadau yr un fath gan gynnwys mân addasiadau i Pwll Cam a Ffordd y Gaer. Bydd gweithwyr yn cael eu lleoli wrth y rhwystr i Pen Cei yn ddyddiol.
  • Aberteifi: Bydd ffyrdd yn cau rhwng 12pm a 4pm yn ystod wythnos gwyliau ysgol Hanner Tymor, 28 Mai i 07 Mehefin ac yna 02 Gorffennaf hyd at ddiwedd mis Medi. Bydd y ffyrdd yn cau o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Ni fydd y ffyrdd yn cau ar ddydd Sul.
  • Aberystwyth: Bydd ffyrdd yn cau rhwng 11am a 5pm yn ystod wythnos gwyliau ysgol Hanner Tymor, 28 Mai i 07 Mehefin, ac yna 02 Gorffennaf hyd at ddiwedd mis Medi. Bydd y ffyrdd yn cau o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Ni fydd y ffyrdd yn cau ar ddydd Sul.
  • Borth: Mae’r trefniadau yr un fath.
  • Cei Newydd: Oherwydd bod natur y dref yn gyrchfan gwyliau, bydd ffyrdd yn cau yn ddyddiol rhwng 12pm a 5pm ar 28 Mai hyd at ddiwedd mis Medi.

Mae’r holl wybodaeth a mapiau ar gael ar dudalen Parthau Diogel.

27/05/2021