Mae'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr a Busnesau Manwerthu wedi'i gymeradwyo ar gyfer 2019-20. Cymeradwywyd y cynllun gan Gabinet Cyngor Sir Ceredigion ar 9 Ebrill 2019.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i fusnesau manwerthu cymwys drwy gynnig hyd at £2,500 o ddisgownt ar ardrethi annomestig fesul eiddo. Mae hyn yn gymwys i fanwerthwyr sy'n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol o £50,000 neu lai yn y flwyddyn ariannol 2019-20.

Y Cynghorydd Gareth Lloyd yw'r aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Wasanaethau Cyllid a Chaffael. Dywedodd, “Mae hyn yn bwysig iawn i fusnesau bach yng Ngheredigion. Mae'r manwerthu traddodiadol yn cystadlu â gwerthiannau ar-lein, felly mae unrhyw gymorth yn ddefnyddiol. Mae’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr a Busnesau Manwerthu yn werth £850,000 i'r economi leol ac rwy'n siŵr y bydd yn cael ei groesawu.”

"Mae'r cynllun bellach yn cynnwys yr holl fanwerthwyr cymwys, nid dim ond y rhai ar y stryd fawr. Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol yn economi Ceredigion.”

Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, nid yw'r cynllun 2019/20 wedi ei wella wedi'i gyfyngu i adeiladau'r stryd fawr ond bydd hefyd yn cynnwys pob eiddo yng Ngheredigion sy'n gymwys.

Mae'r cynllun hwn yn ychwanegol at y Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach a'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Trosiannol.

10/04/2019