Fel awdurdod ailgylchu blaenllaw yng Nghymru, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi ymgyrch ailgylchu genedlaethol, sef: ‘Bydd Wych, Ailgylcha’ i godi Cymru i’r safle cyntaf i fod y wlad orau yn y byd am ailgylchu.

I nodi dechrau’r ymgyrch ar 21 Medi 2020, bydd Canolfan Alun R Edwards (Llyfrgell Aberystwyth), Bandstand Aberystwyth a Chanolfan Rheidol yn cael eu goleuo’n wyrdd gyda’r nos am wythnos.

Mae ystadegau a gyhoeddwyd gan Recycle Now yn dangos bod y Deyrnas Unedig wedi meithrin hyd yn oed mwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol yn ystod y cyfnod clo, gyda bron 9 ymhob 10 cartref yn dweud eu bod yn ‘ailgylchu’n aml’.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol Tai a Chyswllt Cwsmeriaid: “Mae naid gadarnhaol ymlaen wedi bod mewn perthynas ag agweddau at ailgylchu, sy’n wych. Gall pob un ohonom barhau i wneud hyd yn oed yn well yn ystod y flwyddyn sydd i ddod; dewch i sicrhau mai Cymru, a ni, yw’r prif ailgylchwyr ledled y byd. Gan fod poteli gwydr a jariau, gwastraff bwyd a rhestr helaeth o eitemau yn gallu cael eu hailgylchu a’u casglu gan y Cyngor, dyma’r adeg berffaith i sicrhau eich bod yn ailgylchu popeth sy’n bosibl.”

Mae’r ymgyrch, a gynhelir ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru a WRAP Cymru, yn rhoi cyfle i ni ddiolch i bobl Ceredigion am barhau i ailgylchu, ni waeth pa heriau bywyd sy’n eu hwynebu. Mae ailgylchu yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o fynd i’r afael â newid hinsawdd, ac mae’n rhywbeth syml y gall pob un ohonom ei wneud i helpu i sicrhau effaith gwirioneddol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Edwards: “Mae ein criwiau casglu gwastraff wedi bod yn arwyr go iawn hefyd, gan ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl mewn amgylchiadau anodd iawn. Maent wedi bod yn brysur iawn, yn enwedig oherwydd y gwastraff a’r deunydd ailgylchu ychwanegol a oedd yn cael ei gynhyrchu gan fod pobl yn treulio mwy o amser gartref. Mae’r gydnabyddiaeth y mae ein criwiau wedi’i chael wrth i bobl godi llaw arnynt a gadael nodiadau, cardiau ac anrhegion iddynt yn ystod y cyfnod clo wedi bod yn brawf twymgalon o faint y maent yn cael eu gwerthfawrogi, ynghyd â sut y gall holl drigolion Ceredigion wneud gwahaniaeth cadarnhaol.”

Mae delio â’r holl wastraff mewn modd cyfrifol, sy’n cynnwys ailgylchu cymaint ohono â phosibl, yn rhan o waith Caru Ceredigion. Mae’n seiliedig ar wneud y pethau cadarnhaol sy’n dda ar eich cyfer chi, eich cymuned a’r amgylchedd.

Cynghorion gwych i godi Cymru i’r safle cyntaf:

  • Ailgylchu ein gwastraff bwyd yw un o’r ffyrdd hawsaf o roi hwb mawr i’n cyfradd ailgylchu. Rhowch unrhyw wastraff bwyd – ni waeth pa mor fach ydyw – yn eich bocs gwastraff bwyd i sicrhau ei fod yn cael ei gasglu bob wythnos.
  • Nid yw ailgylchu yn dod i ben wrth ddrws y gegin – cofiwch ailgylchu gwastraff mewn ystafelloedd eraill hefyd. Byddwch yn synnu cymaint o wastraff y gallwch ei ailgylchu yn yr ystafell ymolchi, e.e. gellir ailgylchu poteli gwag a oedd yn cynnwys siampŵ, sebon llyfnu, sebon dwylo a jel cawod.
  • Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod y gellir ailgylchu poteli dŵr, caniau, papur a chardfwrdd, ond cofiwch y gallwch hefyd ailgylchu eitemau mwy anarferol, e.e. erosolau gwag. Ac os nad ydych yn siŵr o’r hyn y gallwch ei ailgylchu, ewch i restr A-Z Gwastraff y Cyngor.
  • Golchwch eich caniau, potiau, tybiau a bocsys yn ysgafn cyn eu hailgylchu – nid oes angen eu golchi o dan y tap, bydd eu swilio’n gyflym yn y bowlen golchi llestri yn ddigon. Bydd hyn yn lleihau’r arogl. Yn ogystal â hyn, bydd eu gwasgu yn rhoi mwy o le i chi yn eich bag ailgylchu.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ‘Bydd Wych’ yng Ngheredigion, ewch i wefan y Cyngor neu ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 01545 570 881. Cadwch olwg am hysbysebion ar y teledu, ar fysiau, ar fyrddau poster ac ar y cyfryngau cymdeithasol ledled Cymru, neu ymunwch â’r sgwrs trwy ddefnyddio’r hashnod #ailgylchwyrgwych.

22/09/2020