Bydd nifer o slotiau wedi’u harchebu ymlaen llaw ar gael ar gyfer y gymuned ym mhwll nofio Prifysgol Aberystwyth tra bo’r gwaith yn parhau yng Nghanolfan Hamdden Plascrug.

Fel Awdurdod Lleol, rydym yn cydnabod yr anawsterau cyfredol sy’n bodoli yn sgil cau pyllau nofio’r Cyngor ar draws y sir. Rydym hefyd yn cydnabod anghenion trigolion Ceredigion i allu mynd i nofio.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod mewn trafodaethau â Phrifysgol Aberystwyth mewn perthynas â’r posibilrwydd o ddefnyddio eu pwll nofio at ddefnydd cymunedol tra bo Canolfan Hamdden Plascrug ar gau. Mae’r Awdurdod Lleol yn hynod o ddiolchgar i’r Brifysgol am eu cymorth a’u cydweithrediad gyda’r trefniadau hyn.

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd nifer cyfyngedig o slotiau nofio ar gael yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol o 28 Mehefin 2021 ymlaen, os bydd nifer yr achosion o’r coronafeirws yng Ngheredigion yn parhau’n isel. Bydd y rhain yn mynd law yn llaw â’r slotiau a fydd wedi’u neilltuo ar gyfer defnyddwyr arferol y Brifysgol. Bydd pob slot yn sesiwn 1 awr o hyd, a fydd yn cynnwys 45 munud yn y pwll.

Bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol ac ni chaniateir galw heibio. Bydd manylion llawn y slotiau a fydd ar gael, ynghyd â sut i archebu, ar gael ar wefan Ceredigion Actif cyn hir. 

Canolfan Hamdden Plascrug

Mae’r gwaith datgomisiynu yng Nghanolfan Hamdden Plascrug yn parhau, ond mae maint y gwaith sydd i’w wneud i’r adeilad yn llawer mwy na’r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol.

Defnyddiwyd pob rhan o’r adeilad pan gafodd ei drawsnewid yn Ysbyty Maes COVID-19 gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i ailagor y Ganolfan Hamdden cyn gynted â phosib, ond rhaid i ni sicrhau ein bod yn gallu darparu cyfleusterau diogel ac o safon uchel i holl ddefnyddwyr y gwasanaeth eu mwynhau.

Rydym yn gwerthfawrogi amynedd a dealltwriaeth yr holl ddefnyddwyr wrth i ni weithio tuag at ailagor.

Gellir hefyd archebu slotiau yng Nghanolfan Hamdden Aberaeron, Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan a Neuadd Chwaraeon Ysgol Penglais (ar gyfer defnydd clybiau cymunedol yn unig). Mae gwaith cynnal a chadw hanfodol yn parhau ym Mhwll Nofio Llanbedr Pont Steffan ac mae Canolfan Hamdden Aberteifi yn parhau yn ganolfan frechu torfol ar gyfer COVID-19.

Bydd oriau agor, amserlenni, gwybodaeth am archebu a manylion am y mesurau diogel rhag COVID ar gael ar wefan Ceredigion Actif.

Dilynwch ni ar Facebook, Instagram a Twitter am y manylion diweddaraf.

18/06/2021