Wrth i Ddiwrnod y Cyfrifiad agosáu, atgoffir pawb am y manteision o gymryd rhan yn yr arolwg unwaith bob deng mlynedd hwn.

Mae’r Cyfrifiad yn rhoi darlun cywir o boblogaeth ac anghenion pobl y sir, ac felly yn effeithio ar y cyllid gaiff ei ddyrannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Ceredigion yn flynyddol ac felly’r cyllid sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn y sir. O ganlyniad, mae’n hollbwysig i bawb gymryd rhan yn yr arolwg hwn.

Bydd pob cartref yn y sir yn cael Pecyn y Cyfrifiad yn ystod yr wythnosau nesaf, a fydd naill ai yn cynnwys llythyr â chod mynediad unigryw i’w gwblhau ar-lein neu arolwg papur. Bydd Pecyn y Cyfrifiad yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i gwblhau’r arolwg.

Dangosodd y Cyfrifiad diwethaf, a gynhaliwyd yn 2011, fod 75,922 o bobl yn byw yng Ngheredigion, gan gynnwys 11,318 o fyfyrwyr. Y swydd fwyaf gyffredin i drigolion y sir oedd amaethu, gyda 2,063 o bobl wedi nodi eu bod yn ffermio a nododd 676 o bobl eu bod yn nyrsio.

Helpodd data Cyfrifiad 2011 i nodi Ceredigion (a thri awdurdod lleol arall yng Nghymru) yn ardaloedd targed ar gyfer Cynllun Cronfa Arloesi Arfor sy'n werth £2 filiwn. Amlygodd y data fod Ceredigion yn ardal addas ar gyfer y cynllun, gan fod cyfran uchel o siaradwyr Cymraeg yn y sir, ac oherwydd y mewnlif o bobl hŷn a'r all-lif o bobl iau. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi bron £500,000 i Geredigion, er mwyn cefnogi busnesau ac entrepreneuriaid Cymraeg yn yr ardal.

Yn ogystal â hyn, arweiniodd y data a gasglwyd yn ystod Cyfrifiad 2011 at ddatblygu ardaloedd chwarae a hamdden yn Llanddewi Brefi, Llanon, Ponterwyd ac Aberteifi. Trwy ddefnyddio’r data hyn, roedd modd gwneud cais i Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru am gyllid gan amlygu cymaint y mae angen y gwasanaethau hyn ar drigolion lleol.

Mae’r wybodaeth a gesglir yn ystod y Cyfrifiad yn galluogi llywodraethau lleol a chenedlaethol i gynllunio gwasanaethau ar gyfer amrywiol sectorau, gan gynnwys y maes gofal iechyd, gofal cymdeithasol, ysgolion a thrafnidiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Nid yn unig y mae’r Cyfrifiad yn hynod o ddiddorol, ond mae hefyd yn rhoi’r amcangyfrif gorau posibl o’n poblogaeth heddiw. Ar hyd y blynyddoedd, rydym wedi gallu defnyddio’r data hyn i gynllunio gwasanaethau, gan ddiwallu a blaenoriaethu anghenion ein cymunedau yng Ngheredigion. Anogaf bawb i gwblhau’r arolwg gorfodol hwn er mwyn meithrin gwir bortread o wead y sir. Pwy a ŵyr beth fydd yn deillio o ddata Cyfrifiad 2021? Ond mae un peth yn sicr, bydd cymryd rhan o fudd i drigolion ein sir.”

Cynhelir Diwrnod y Cyfrifiad ar 21 Mawrth 2021, ond bydd cartrefi yn cael Pecyn y Cyfrifiad yn y post cyn hir a fydd yn esbonio sut y gallant gymryd rhan. Bydd y Cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am eich rhyw, eich oedran, eich gwaith, eich iechyd, eich addysg, maint eich cartref a'ch ethnigrwydd. Ac, am y tro cyntaf, bydd cwestiwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i'r rhai sy'n 16 oed a throsodd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.

Yng Nghymru, bydd cwestiwn penodol i gartrefi am eu sgiliau Cymraeg hefyd. A gall y rheiny sy'n dymuno cwblhau'r Cyfrifiad trwy gyfrwng y Gymraeg wneud hynny ar-lein ac ar bapur.

Gan fod y materion hyn o bwys i ni gyd, mae angen i bawb gwblhau’r Cyfrifiad. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) sy’n cynnal y Cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr ac mae’n annibynnol oddi ar y llywodraeth. Bydd eich manylion yn cael eu diogelu yn ôl y gyfraith a bydd yr wybodaeth a gyhoeddir bob amser yn ddienw.

I gael rhagor o wybodaeth, ac i ganfod sut i ddod o hyd i help, ewch i wefan y Cyfrifiad neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar 0800 169 2021.

04/03/2021