Wedi cystadlu brwd mae CERED yn falch i gael cyhoeddi mai enillydd cystadleuaeth rownd Ceredigion Brwydr y Bwgan Brain yw grwp cymunedol Yr Hwb, Penparcau.

Daeth eu hymdrech hwy i’r brig mewn cystadleuaeth agos a chyda chystadleuwyr o bob rhan o Geredigion yn cymryd rhan ac yn anfon lluniau o’u Bwganod Brain ar y thema “Cymru” i CERED dros yr wythnosau diwethaf. Ystyriwyd pob ymgais yn ofalus gan y beirniad gwadd sef cyn-enillydd Fferm Ffactor, Aled Rees. Bydd creadigaeth yr Hwb yn awr yn mynd ymlaen i gystadlu yn rownd genedlaethol Brwydr y bwgan Brain.

Trefnwyd y gystadleuaeth hon eleni gan Fentrau Iaith ar draws Cymru gyfan a hynny oherwydd bod nifer o sioeau bach lleol wedi eu canslo. Yn aml iawn mae creu bwgan brain yn gystadleuaeth poblogaidd yn y sioeau hynny a’r bwriad oedd cynnal cystadleuaeth a fyddai’n codi calon a dod â chymunedau ar draws Cymru ynghyd.

Yn dilyn y rowndiau rhanbarthol bydd Bwgan Brain o bob ardal yn mynd ymlaen i gystadlu yn y Rownd Genedlaethol er mwyn darganfod Bwgan Brain Gorau Cymru a phencampwr Brwydr y Bwgan Brain 2020. Yn ogystal a’r teitl Pencampwr Brwydr y Bwgan Brain bydd yr enillydd yn derbyn gwobr arbennig sef darlun unigryw a lliwgar o waith yr artist Rhys Padarn Jones. Y cyflwynydd radio a theledu adnabyddus Ifan Jones Evans fydd yn cael y dasg o feirniadu’r rownd genedlaethol a mi fydd Mentrau Iaith Cymru yn cyhoeddi’r enillydd cenedlaethol ar ddydd Llun, 17 Awst.

Dywedodd Karen Rees, Rheolwraig Yr Hwb: “Mae hwn yn newyddion gwych, rydyn ni mor falch ein bod ni wedi cefnogi CERED a wedi rhoi cynnig ar y gystadleuaeth. Ymlaen I’r Genedlaethol nawr!”

Meddai Non Davies, Rheolwr CERED: “Mae wedi bod yn grêt gweld cymaint yn cael hwyl ac yn creu campweithiau. Ar adeg pan fo mwy ohonom yn treulio amser yn yr awyr agored mae’r gystadleuaeth nid yn unig wedi codi calon a hybu Cymreictod ond hefyd wedi bod o ddefnydd i bob garddwr gwerth ei halen!” 

Pob lwc i Grwp Cymunedol Penparcau!

10/08/2020