Mae busnesau o bob rhan o Ganolbarth Cymru wedi cymryd y cam mawr cyntaf o ran datblygu'r weledigaeth ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru. Fe wnaeth 40 o fusnesau, sefydliadau cynrychioliadol ac ymddiriedolaethau elusennol gwrdd mewn tri gweithdy ar ddechrau mis Ebrill i ddechrau'r broses.

Arweiniwyd gweithdai'r Fargen Twf gan y sector preifat ac fe'u hwyluswyd gan Bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru. Cynhaliwyd cyfres o drafodaethau dros y tri digwyddiad lle'r oedd busnesau'n edrych ar sut y gallai £200m posibl o arian y Fargen Dwf roi hwb i economi Canolbarth Cymru.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd, "Mae busnesau o bob cwr o'r Canolbarth wedi cael cyfle i drafod sut y gellir defnyddio £200m o gyllid i helpu i drawsnewid economi Canolbarth Cymru. Dim ond y cam cyntaf yw hyn o ran sicrhau Bargen Twf ar gyfer y Canolbarth, ond mae'n un gyffrous.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld y weledigaeth yn mynd yn ei flaen. Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd y weledigaeth yn troi'n arian gwirioneddol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar economi a chymunedau Canolbarth Cymru.”

Prif nod cynllun gweithredu economaidd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yw sbarduno twf economaidd a newid trawsnewidiol yn economi'r Canolbarth yn ystod y 15 mlynedd nesaf. Caiff y cynllun gweithredu ei gyflwyno drwy amrywiaeth o ffynonellau ariannu gan gynnwys y posibilrwydd o Fargen Twf Canolbarth Cymru. Mae cymorth gan fusnesau yn hanfodol i gyflawni nodau'r cynllun gweithredu.

Y Cynghorydd Rosemarie Harris yw Arweinydd Cyngor Sir Powys. Meddai, “Rydym ar ddechrau taith hynod gyffrous a allai gael effaith enfawr ar ein heconomi ranbarthol, gan fod o fudd i boblogaeth Powys a Cheredigion.

"Gyda chefnogaeth gan y sector preifat a phartneriaid yn y sector cyhoeddus rydym yn gobeithio cyflwyno cyfleoedd a thwf economaidd sylweddol ledled Canolbarth Cymru. Ni fydd y daith yn un hawdd ond mae gennym weledigaeth glir ac rydym yn benderfynol i lwyddo.”

Cynhaliwyd dau weithdy yn Llandrindod ar 2 a 3 Ebrill. Cynhaliwyd gweithdy terfynol yn Aberystwyth ar 11 Ebrill.

Mae mwy o weithdai wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol agos, gyda'r bwriad o gael cyfranogiad eang gan fusnesau i lunio'r weledigaeth ar gyfer y fargen dwf.

12/04/2019