Cafodd Brownies Penrhyn-coch llongyfarch am gyfansoddi cân Gymraeg newydd yn ddiweddar. Roedd y gweithdai yn rhan o raglen o weithgareddau Cymraeg a drefnwyd gan Cered - Menter Iaith Ceredigion.

Yn dilyn cyfres o weithdai arbennig gyda’r gantores ifanc Mari Mathias o Dalgarreg, penderfynodd y merched gyfansoddi cân ar y cyd. Recordiwyd y gân ‘Yn yr Haf’ gyda’r merched yn canu i gyfeiliant Mari ar y gitar. Derbyniodd pob aelod o’r grwp gopi o’r gan ar CD.

Dywedodd Rhodri Francis, Swyddog Datblygu’r Fenter, “Mae wedi bod yn bleser yn cydweithio gyda’r grŵp ac rydym yn llongyfarch yr aelodau ar eu campwaith. Diolch hefyd i’r arweinwyr am eu brwdfrydedd wrth sicrhau cyfleoedd cymdeithasu Cymraeg i’r plant ym Mhenrhyn-coch tu allan i oriau ysgol."

Prif nod Cered yw cefnogi, dylanwadu a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion er mwyn gosod y seiliau gorau posibl ar gyfer tyfu a datblygu’r Gymraeg ar lefel gymunedol a chymdeithasol.

Dywedodd Wendy Reynolds, Arweinydd Uned Brownies Penrhyn-coch, “Mae’r profiad yma wedi bod yn wych i’r merched ac maent wedi cael llawer o hwyl gyda’r gweithgaredd trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Dilynwch y newyddion am waith ehangach y fenter drwy hoffi’r dudalen Facebook @ceredmenteriaith neu drwy ddilyn ar Twitter @MICered. I gael mwy o wybodaeth ar Cered, ffoniwch 01545 572350 neu e-bostiwch cered@ceredigion.gov.uk.

 

19/07/2018