Ar 15 Ionawr 2019, ymddangosodd Mr David Davies a Mr Meirion Davies o Fferm Penffynnon, Bangor Teifi, Llandysul o flaen y Llys Ynadon yn Aberystwyth, wedi eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud ag Iechyd Anifeiliaid.

Plediodd y ddau ddyn yn euog i bob cyhuddiad. Roedd y cyhuddiadau yn cynnwys 13 cyhuddiad yn ymwneud ag achosi dioddefaint diangen i wartheg, methu cwrdd ag anghenion anifeiliaid, a chyhuddiadau o fethu â gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid, sef yr ysgerbydau a ganfuwyd ar y fferm.

Mae'r achos yn dilyn ymchwiliad gan Swyddogion Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Ceredigion. Pan ymwelodd swyddogion â'r fferm, darganfuwyd nifer fawr o ysgerbydau gwartheg mewn cyflyrau amrywiol o bydru mewn sawl lleoliad. Gwelwyd hefyd bod y gwartheg a oedd dal i fyw wedi cael eu cadw mewn amodau gwael. Ers hynny, mae’r gwartheg wedi cael eu goruchwylio yn rheolaidd.

Gohiriwyd yr achos tan ganol mis Chwefror, 2019 i alluogi paratoi adroddiadau cyn dedfrydu.

18/01/2019