Mae Borth Wild Animal Kingdom wedi cael cyfarwyddyd gan Gyngor Sir Ceredigion i gau llociau eu hanifeiliaid mwyaf peryglus - a elwir yn anifeiliaid Categori 1. Cafodd y cyfarwyddyd ei gyflwyno ar 27 Ionawr 2020 oherwydd trefniadau annigonol o ran drylliau pe bai anifail peryglus yn dianc.

Mae bod â gallu drylliau boddhaol yn un o amodau'r drwydded sw bresennol. Mae'n nodi bod yn rhaid i'r sw gadw tîm drylliau cymwys a thrwyddedig o dri aelod. Rhaid i o leiaf un aelod o'r tîm drylliau fod ar ddyletswydd bob dydd, gyda dau yn ddelfrydol. Cadarnhawyd yn ddiweddar bod y sw wedi methu â chynnal yr amodau hyn.

Gall y sw apelio yn erbyn y cyfarwyddyd hwn i Lys Ynadon o fewn 28 diwrnod o dderbyn y cyfarwyddyd. Mae'r cyngor wedi ysgrifennu at weithredwyr y sw yn gofyn iddynt gau Borth Wild Animal Kingdom i'r cyhoedd ar sail wirfoddol hyd nes i'r llys glywed y mater.

Y Cynghorydd Gareth Lloyd yw'r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Diogelu'r Cyhoedd. Dywedodd: “Rwy'n gwybod bod y cyfarwyddyd wedi cael ei roi'n gyndyn. Mae staff y cyngor wedi gweithio'n agos gyda'r sw i'w helpu i gydymffurfio ag amodau eu trwydded. Diogelwch y cyhoedd a lles anifeiliaid fu ein blaenoriaethau erioed yn yr achos hwn, ac roedd y cyfarwyddyd i gau'r llociau Categori 1 yn seiliedig ar y blaenoriaethau hynny.

“Rydyn ni'n gweithio ar gynlluniau wrth gefn i ailgartrefu'r anifeiliaid Categori 1 gyda gweithredwyr sw trwyddedig os na fydd y cyfarwyddyd i gau'r llociau’n cael ei apelio'n llwyddiannus.”

Mae'r anifeiliaid mwyaf peryglus yn perthyn i Gategori 1 fel y'i diffinnir o dan Atodiad 12 o Safonau Arferion Modern cadw Sw Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyflwynwyd y cyfarwyddyd cau sw o dan adran 16B (1) o Ddeddf Trwyddedu Sŵau 1981.

28/01/2020