Ar 7 Medi 2020, ymddangosodd Borth Wild Animal Zoo Ltd yn Llys Ynadon Aberystwyth er mwyn ymateb i apêl yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i gyhoeddi Cyfarwyddiadau Cau mewn perthynas â'r Sŵ am fethu â chydymffurfio â nifer o gyfarwyddiadau.

Yn ystod y gwrandawiad, cynigiodd Borth Wild Animal Kingdom Ltd ildio rhan Categori 1 (anifeiliaid cigysol) eu trwydded sw. Mewn ymateb i'r cynnig hwn cytunodd Cyngor Sir Ceredigion i newid y drwydded i gau'r rhan hon o'r Sŵ yn unig, sef y mannau caeëdig sy’n cadw llewod, lyncs ac anifeiliaid serfal. Mae cau'r rhan hon o'r Sŵ yn golygu na ellir cadw unrhyw anifeiliaid Categori 1 yn y casgliad erbyn hyn.

Bellach, mae'n ofynnol i'r Sŵ gyflwyno cynllun ailgartrefu a gofal yn y dyfodol i'r Awdurdod Lleol o fewn 21 diwrnod a gorchmynnodd y Barnwr fod y cynllun yn cael ei weithredu o dan oruchwyliaeth yr Awdurdod.

Nododd y Barnwr mewn Llys agored ei fod wedi darllen y pecyn o dystiolaeth a ddarparwyd gan yr Awdurdod Lleol ac er nad oedd yn rhag-bennu unrhyw fater, roedd yn amlwg iddo fod yr Awdurdod Lleol wedi bod yn amyneddgar iawn mewn sefyllfa lle'r oedd pryderon amlwg am ddiogelwch y cyhoedd.  Roedd yn ymwybodol o'r ymdrechion niferus a wnaed gan yr Awdurdod Lleol i weithio gyda'r Sŵ a mynnodd mai mater i'r Sŵ ydoedd yn awr i edrych i'r dyfodol.

11/09/2020