Mae’r Tîm Pobl Ifanc Egnïol a Llysgenhadon Ifanc o ysgolion Ceredigion wedi bod yn brysur yn paratoi adnoddau ar gyfer gweithgareddau a sgiliau y gall plant eu gwneud gartref yn ystod y cyfyngiadau symud.

Mae’r adnoddau ar gael ar ffurf fideo ac maent wedi cael eu rhannu ar dudalennau @CeredigionActif ar y cyfryngau cymdeithasol, Facebook, Twitter, Instagram a YouTube.

Elen James yw’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Porth Cymorth Cynnar, Lles Cymunedol a Dysgu. Dywedodd: “Ein nod yw annog disgyblion Ceredigion i wneud rhywbeth egnïol bob dydd. Yn ogystal â gwella eich iechyd corfforol a’ch ffitrwydd, mae gwneud rhywbeth egnïol yn cael effaith gadarnhaol ar eich lles meddyliol. Gellir gwneud llawer o’r gweithgareddau hyn y tu mewn neu’r tu allan gydag ychydig iawn o offer. Rydym yn falch iawn bod nifer o’n Llysgenhadon Ifanc profiadol yn bod yn rhagweithiol ac yn cymryd rhan yn y gwaith o gynhyrchu’r fideos er mwyn annog eraill i wneud rhywbeth egnïol.”

Gall ysgolion ymuno drwy Microsoft Teams neu wefan Hwb fel y gall disgyblion ysgolion Ceredigion wneud rhywbeth egnïol bob dydd.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys y canlynol:

Gwersi wedi’u ffilmio y gall plant eu dilyn. Mae’r rhain yn ymarferion byr ond dwys sy’n cynnwys gweithgarwch corfforol i wella ffitrwydd a lles yn ogystal â sgiliau sylfaenol i wella sgiliau canolbwyntio a chydsymud. Argymhellir bod y rhain yn cael eu gwneud o leiaf ddwywaith yr wythnos. Gellir gweld y wers gyntaf ar sianel YouTube Ceredigion Actif yma: https://www.youtube.com/watch?v=taLO-5nTp-o&list=PL9UGnyrcd3cK9q_Q4Tx2QaFjm2DnWdt_h

Bydd y rhain yn cael eu rhannu’n cytosol ac maent yn addas ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2.

Gemau cyflym. Gemau neu weithgareddau byr yw’r rhain y gallwch chi eu gwneud gartref. Mae posteri a fideos ar gael sy’n cynnig eglurhad.

Gwybodaeth ynglŷn â sut i gymryd rhan mewn Ffit mewn 5. Cyflwynwyd Ffit mewn 5 i ysgolion cynradd Ceredigion er mwyn cael plant i wneud rhywbeth egnïol am gyfnod byr bob dydd. Ymarfer 5 sgil gwahanol am 5 munud bob dydd. Mae’n ddidrafferth ac yn hawdd i’w wneud.

Fideos sgiliau sylfaenol drwy God QR. Mae’r rhain wedi’u cynnwys mewn cardiau sgiliau cyfredol fel y gall dysgwyr ddarllen cyfarwyddiadau neu wylio fideo cyn cymryd rhan. Gellir defnyddio’r rhain ar eu pen eu hunain neu ar gyfer Ffit mewn 5.

Fideos Llysgenhadon Ifanc sy’n annog disgyblion i wneud rhywbeth egnïol gartref. Ymarferion byr sydd wedi’u hanelu at ddisgyblion iau ac hŷn.

Gellir defnyddio cymysgedd o’r adnoddau hyn er mwyn cynnal diddordeb, dyma enghraifft o amserlen ar gyfer pryd y gellir gwneud y gweithgareddau:

Llun

Mawrth

Mercher

Iau

Gwener

Sadwrn

Sul

Sesiwn wedi’i ffilmio - 20 munud o weithgareddau

Ffit mewn 5.

5 sgil gwahanol. Treuliwch 2 neu 3 munud ar bob un.

Gwnewch hyn fwy nag unwaith os gallwch chi.

Gemau Cyflym.

Gemau bach i wella sgiliau. Beth am i’r teulu gymryd rhan!

 

Sesiwn wedi’i ffilmio - 20 munud o weithgareddau

Ffit mewn 5.

5 sgil gwahanol. Treuliwch 2 neu 3 munud ar bob un. Gwnewch hyn fwy nag unwaith os gallwch chi.

Sesiwn wedi’i ffilmio - 20 munud o weithgareddau

Gemau cyflym.

Gemau bach i wella sgiliau. Beth am i’r teulu gymryd rhan!

 

Bydd ysgolion yn cael eu hysbysu pan fydd adnoddau newydd yn cael eu cynhyrchu.

18/05/2020