Mae rhieni 400 o blant Ceredigion wedi manteisio ar y Cynnig Gofal Plant yn ei flwyddyn gyntaf. Mae’r cynnig wedi bod yn gweithredu yng Ngheredigion ers mis Medi 2018, ac mae wedi arbed bron i £850,000 o gostau gofal plant i rieni cyn belled.

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n darparu cyfuniad o 30 awr o ofal plant ac addysg feithrin Cyfnod Sylfaen i blant 3 a 4 oed. Mae’r cynnig ar gael i rieni mewn gwaith sydd â phlant 3 a 4 oed am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid i’ch plentyn fod yn dair neu’n bedair oed, ac mae’n rhaid eich bod yn ennill yr hyn sy’n cyfateb ag o leiaf 16 awr ar y cyflog byw cenedlaethol neu’r isafswm cyflog cenedlaethol, neu mae’n rhaid eich bod yn derbyn budd-daliadau gofalu penodol.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet sy’n gyfrifol am y Gwasanaethau Dysgu. Dywedodd, “Mae’n braf gweld bod y Cynnig Gofal Plant yn cael gymaint o effaith yng Ngheredigion yn y flwyddyn gyntaf. Mae’r Cynnig Gofal Plant yn gyfle gwych i rieni, ond hefyd yn gyfle i gynnig gwell cynaliadwyedd i ddarparwyr gofal plant.”

Mae tîm ymroddgar o staff wedi cael ei ddatblygu o fewn y Cyngor Sir Ceredigion er mwyn gweinyddu’r cynnig yn y sir ac ar ran Sir Gâr, Powys, a Sir Benfro. Cyngor Sir Ceredigion yw’r awdurdod gweithredu sy’n prosesu’r holl geisiadau gan rieni ac sy’n ymdrin â thaliadau darparwyr gofal plant.

Gall cost gofal plant fod yn faich mawr ar rieni sy’n gweithio. Mae cynllun fel hwn wirioneddol wedi gwneud gwahaniaeth i sefyllfa ariannol teuluoedd. Dywedodd un rhiant sydd wedi manteisio ar y cynnig “Mae wedi ein helpu ni gryn dipyn. Roedd ychydig o waith o ran ei drefnu a dod o hyd i’r gwaith papur, ond unwaith i ni gwblhau hynny, roedd yn rhwydd iawn. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw mynd â’ch plentyn i’r lleoliad gofal plant bob dydd a’u nôl nhw ar ddiwedd y dydd!”

“O ganlyniad i’r arian rydym wedi ei arbed drwy’r Cynnig Gofal Plant, rydym wedi gallu cynnig profiadau eraill i’n plant.”

Mae’r ffurflen gais i rieni a gofalwyr ar gyfer y Cynnig Gofal Plant ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/plant-a-phobl-ifanc/gofal-plant/cynnig-gofal-plant-i-gymru/ffurflen-gais-cynnig-gofal-plant/

Gellir cyflwyno ceisiadau Cynnig Gofal Plant ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2019 a 31 Rhagfyr 2019 o 4 Tachwedd 2019.
Yn rhan o’r broses ymgeisio, bydd yn rhaid i rieni/gofalwyr ddarparu’r dystiolaeth ganlynol:

• Copi o dystysgrif geni’r plentyn
• Prawf cyfeiriad (eich bil diwethaf ar gyfer Treth y Cyngor neu fil gwasanaeth sydd wedi’i ddyddio o fewn y 3 mis diwethaf)
• Y tri slip cyflog diwethaf ar gyfer pob ymgeisydd
• Neu, os ydych yn hunangyflogedig, darparwch gopi o’ch ffurflen dreth hunanasesu ddiweddaraf. Neu fel arall, os ydych yn hunangyflogedig ers yn gymharol ddiweddar, darparwch brawf o’ch Cyfeirnod Treth Unigryw gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).
Dylai rhieni neu ddarparwyr gofal plant yng Ngheredigion sydd angen rhagor o wybodaeth gysylltu ag Uned Gofal Plant Ceredigion ar 01545 570881 neu anfon e-bost at clic@ceredigion.gov.uk

28/10/2019