Mae barnwr Llys y Goron wedi cadarnhau dyfarniad o achos a welodd esgeulustod a marwolaeth 58 o wartheg. Wrth roi ei ddyfarniad, disgrifiodd y barnwr y drosedd fel un sy'n ‘wirioneddol frawychus’.

Roedd yr achos yn ymwneud ag euogfarn David Davies, ac Evan Meirion Davies o Fferm Penffynnon, Bangor Teifi. Roedd y ddau wedi pledio'n euog i 13 cyhuddiad o esgeuluso anifeiliaid ym mis Chwefror 2019. Yn ddiweddarach apeliasant ddedfryd Llys yr Ynadon a oedd yn eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid am bum mlynedd.

Roedd y brodyr wedi llesteirio'r broses apelio drwy sicrhau gohiriadau mewn saith gwrandawiad apêl. Ni chaniatawyd cais arall i ohirio'r wythfed gwrandawiad ar ddydd Llun 2 Rhagfyr. Fe wnaethant hefyd geisio apelio yn erbyn y ddedfryd euog er iddynt bledio'n euog i'r cyhuddiadau yn gynharach yn y flwyddyn.

Roedd yr erlyniad yn dilyn ymweliad gan Swyddogion Iechyd Anifeiliaid a Milfeddyg yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar y fferm ym mis Ebrill 2018. Roedd swyddogion wedi canfod 58 o garcasau gwartheg mewn cyflyrau amrywiol o bydru yn y siediau gwartheg a'r caeau cyfagos. Roedd y gwartheg a oedd yn weddill o dan amodau ofnadwy, heb fwyd, dŵr na man gorwedd sych.

Cadarnhaodd y milfeddyg bod y gwartheg yn cael eu hachosi dioddefaint diangen, a daeth hefyd i'r farn bod y gwartheg marw wedi dioddef o'r amodau erchyll a ganfuwyd yn y siediau, a'u bod wedi marw o esgeulustod. Roedd yn rhaid i'r milfeddyg ddifa’r ddwy fuwch i atal dioddefaint pellach yn ystod ymweliadau â'r safle. Hwn oedd un o’r achosion gwaethaf o esgeulustod lles anifeiliaid a welwyd gan Dîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Ceredigion.

Alun Williams yw Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am Bolisi a Pherfformiad. Dywedodd, “Nid oedd gennym unrhyw amheuaeth y byddai'r barnwr yn cadarnhau dyfarniad Llys Ynadon Aberystwyth. Er ein bod wedi teimlo'n rhwystredig oherwydd yr oedi a achoswyd gan yr apelwyr, rydym yn hapus â'r canlyniad.

"Mae mwyafrif helaeth o ffermwyr Ceredigion yn gofalu'n wych am eu hanifeiliaid ac yn cynnal safonau lles anifeiliaid uchel. Byddwn yn sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r lleiafrif bach sydd ddim yn gwneud hynny. Fe wnawn weithredu yn bendant ac erlyn mewn achosion mor ddinistriol o esgeuluso anifeiliaid.”

Cadarnhawyd eu dedfrydau cychwynnol. Fe'u dedfrydwyd i 16 wythnos o garchar wedi'u hatal dros dro am 12 mis, ac roeddent wedi'u hanghymhwyso rhag cadw unrhyw anifeiliaid am bum mlynedd. Bydd y brodyr yn cael 28 diwrnod i gael gwared ar y fuches. Fe'u gorchmynnwyd i dalu costau i'r cyngor o £420.

06/12/2019