Mae Ceredigion yn parhau i brofi rhai o’r safonau ansawdd aer gorau yng Nghymru gyda’r holl leoliadau monitro yn cydymffurfio’n fawr â safonau cyfreithiol.

Yn ystod cyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 06 Rhagfyr 2022, cafodd yr aelodau ddiweddariad ar asesiadau ansawdd aer Ceredigion.

O ran y dyletswyddau monitro ansawdd aer statudol a roddir ar y Cyngor, mae yna ofyniad i adrodd ar Nitrogen Deuocsid (NO2) a Deunydd Gronynnol (PM10) yn flynyddol.

Er mwyn ymgymryd â’r dyletswyddau monitro, mae Tiwbiau Tryledu fel arfer yn cael eu gosod ar bolion lamp ar ochr y ffordd a’u casglu’n fisol i’w hanfon i gael eu dadansoddi mewn labordy cymeradwy. Ar ôl casglu data am 12 mis, sefydlir gwerth cyfartalog i’w gymharu yn unol â therfynau statudol.

Mae ardaloedd monitro cyfredol Ceredigion, a ddewisir fel y sefyllfaoedd gwaethaf posibl o ganlyniad i dagfeydd traffig, fel a ganlyn:

  • Ffordd y Môr, Aberystwyth
  • Stryd Thespis, Aberystwyth
  • Gorsaf Drenau, Aberystwyth
  • Cylchfan Morrisons, Aberystwyth
  • Stryd y Felin, Aberystwyth
  • Stryd Fawr, Aberystwyth
  • Stryd Fawr, Llanbedr Pont Steffan
  • Stryd Fawr, Aberteifi
  • Stryd y Cei, Aberteifi
  • Pendam (safle gwledig cefndirol i gyfeirio ato)
  • Talybont 

Er bod crynodiadau NO2 ychydig yn uwch yn 2021 na 2020, yr esboniad mwyaf tebygol am hynny yw llacio cyfyngiadau’r cyfnod clo COVID-19 yn 2021 a arweiniodd at gynnydd mewn allyriadau cerbydau ar ein ffyrdd. Bydd adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer y flwyddyn nesaf yn parhau i fonitro lefelau llygryddion statudol yn y sir i sicrhau cydymffurfiaeth parhaus â’r safonau cyfreithiol.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraeth a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae pobl wedi dod i Geredigion erioed i fwynhau’r golygfeydd godidog a’r awyr iach. Bellach mae gennym y data i ddangos mai Ceredigion yw un o’r llefydd gorau ar gyfer ansawdd aer yng Nghymru.”

Mae cydymffurfiaeth Ansawdd Aer yn ddyletswydd statudol i'r Awdurdod ac mae’n cyfrannu at y nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

06/12/2022