Bydd Etholiadau Llywodraeth Leol yn digwydd ar 5 Mai 2022. Bydd y rhain ar gyfer Cynghorwyr Sir a Chynghorwyr Tref a Chymuned.

Os ydych yn poeni am eich cymuned leol, eisiau gweld newid a’ch bod yn barod i gymryd penderfyniadau anodd, mae’r Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai yn gyfle ichi wneud gwahaniaeth.

Mae gwefan ar gyfer Ymgeiswyr ac Asiantau wedi cael ei lansio’r wythnos hon ac mae’n cynnwys Canllaw i Ymgeiswyr. Mae’r Canllaw yn cynnwys gwybodaeth am rôl Cynghorydd Sir a sut mae dod yn Gynghorydd.

Etholir cynghorwyr am bum mlynedd i gynrychioli eu cymuned leol yn y gwaith o redeg eu Cyngor lleol. Mae cynghorwyr yn helpu i benderfynu sut caiff gwasanaethau lleol eu darparu, eu hariannu a'u blaenoriaethu gan gynnwys ystyried y gwahanol alwadau ar wasanaethau a sut i ddyrannu adnoddau.

Mae'n bwysig bod Cynghorwyr yn gallu siarad ar ran pawb yn y gymuned gan gynnwys menywod, pobl ifanc, pobl anabl, grwpiau lleiafrifol a phobl LGBTQ+.

Yn ogystal â bod yn gymwys ar gyfer y rôl, rhaid i Gynghorydd lleol:

  • eistedd ar Bwyllgorau'r Cyngor (gall cyfrifoldebau amrywio yn dibynnu ar y pwyllgor rydych wedi’i dewis i gynrychioli)
  • deall adroddiadau er mwyn gwneud penderfyniadau ac argymhellion
  • cytuno i gadw at Gôd Ymddygiad yr Aelodau
  • cynrychioli eu cymuned, meddu ar y gallu i ymwneud â phobl a pharodrwydd i wrando
  • gallu gweithio ar gyfrifiadur ‒ darperir offer a gwneir trefniadau priodol i hwyluso hygyrchedd
  • bod ar gael 3 diwrnod yr wythnos ar gyfer busnes y Cyngor.  Fodd bynnag, nid yw holl ymrwymiadau'r Cyngor yn ystod y diwrnod gwaith, yn enwedig rhai o’r dyletswyddau yn y Ward. 

Ceir rhestr lawn o'r meini prawf ar gyfer cymhwystra yn y Canllaw i Ymgeiswyr.

Bydd papurau enwebu ar gael ar wefan y Cyngor cyn bo hir. Bydd angen i ymgeiswyr sy'n dymuno sefyll yn yr Etholiad gael eu papurau enwebu wedi eu cymeradwyo gan y Swyddog Canlyniadau erbyn 4pm ar 5 Ebrill.

Dywedodd Swyddog Canlyniadau Ceredigion, Eifion Evans: “Rydym yn falch o fedru lansio'r wefan a'r Canllaw i Ymgeiswyr heddiw a gobeithio y byddant o fudd i'r rhai sy’n ystyried sefyll yn yr Etholiadau Lleol ym mis Mai. Y gobaith wrth ddarparu'r wybodaeth hon yw y daw mwy o bobl gerbron i fod yn ymgeiswyr ac y bydd dewis mwy amrywiol i’r etholwyr pan ddaw'n fater o gael eu cynrychioli ar y Cyngor am y pum mlynedd nesaf.”

Caiff gwefan yr Ymgeiswyr a’r Asiantau ei diweddaru’n rheolaidd ac mae ar gael yma: https://www.ceredigion.gov.uk/ymgeiswyr-asiantiaid

21/01/2022