Yn dilyn adroddiadau o droseddwyr yn defnyddio Pàs COVID y GIG fel ffordd o dargedu’r cyhoedd i ddwyn arian, manylion ariannol a gwybodaeth bersonol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhybudd i bobl ledled Cymru nad yw’r GIG yn anfon gwahoddiad i gael Pàs COVID y GIG.

Gellir cael Pàs COVID y GIG yn rhad ac am ddim a gellir ei ddefnyddio i brofi eich bod wedi cael eich brechu yn erbyn y coronafeirws cyn mynychu digwyddiadau neu pan fyddwch yn teithio dramor. Mae’r Pàs ar gael i ddangos eich statws brechu naill ai ar ffurf ddigidol neu bapur drwy Ap y GIG, gwefan y GIG neu drwy ffonio 119. I gael gwybodaeth am sut i gael Pàs COVID y GIG am ddim, ewch i www.nhs.uk/nhscovidpass 

Gall yr awgrymiadau canlynol eich helpu i gadw'n ddiogel rhag y sgam hon yn ymwneud â Phàs COVID y GIG a sgamiau eraill sy'n gysylltiedig â COVID-19:

  • Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw ddolenni ac atodiadau mewn negeseuon testun neu e-byst annisgwyl.
  • Peidiwch byth â chlicio ar ddolenni mewn negeseuon testun ac e-byst amheus – a pheidiwch â nodi unrhyw wybodaeth bersonol neu wybodaeth ariannol.
  • Os ydych wedi clicio ar ddolen ac rydych yn credu ei fod yn sgam, cysylltwch â’ch banc ar unwaith.
  • Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw negeseuon annisgwyl ynglŷn â’r brechlyn rhag COVID-19 neu’r pasbort COVID. Os oes gennych unrhyw amheuon, gwiriwch wefan swyddogol y GIG am wybodaeth neu cysylltwch â’r sefydliad dan sylw yn uniongyrchol.

Cofiwch:

  • Mae Ap y GIG am ddim. Mae Pàs COVID y GIG am ddim. Ni fydd y GIG byth yn gofyn am daliad nac unrhyw fanylion ariannol.
  • Peidiwch ag ymateb i geisiadau am arian neu wybodaeth bersonol bwysig megis manylion banc neu gyfrineiriau.
  • Defnyddiwch wefan swyddogol pàs COVID y GIG.

Os ydych yn amau eich bod wedi dioddef sgam yn gysylltiedig â Phàs COVID y GIG:

  • Os ydych chi'n derbyn galwad ac yn amau ei fod yn dwyllodrus, rhowch y ffôn i lawr.
  • Os ydych chi'n teimlo’n amheus ynghylch e-bost, anfonwch ef ymlaen at report@phishing.gov.uk
  • Os ydych chi'n teimlo’n amheus ynghylch neges destun, gallwch ei hanfon ymlaen at y rhif 7726, sy'n rhad ac am ddim.
  • Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef twyll, rhowch wybod i Action Fraud cyn gynted â phosibl drwy fynd i www.actionfraud.police.uk neu ffonio 0300 123 2040.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth ynglŷn â thwyll sy’n gysylltiedig â Phàs COVID y GIG neu dystysgrifau brechu, gallwch aros yn gwbl ddienw drwy gysylltu â Crimestoppers ar-lein ar www.covidfraudhotline.org neu drwy ffonio 0800 587 5030.

05/10/2021