Atgoffir busnesau o'u dyletswydd i ganiatáu i weithiwr hunan-ynysu yn unol â rheoliadau.

Er bod y mwyafrif o fusnesau yn parhau i gymryd rhagofalon syml i amddiffyn eu cwsmeriaid a'r gymuned, derbyniwyd adroddiadau bod rhai busnesau wedi bod yn caniatáu neu hyd yn oed yn gofyn i staff ddychwelyd i'r gwaith, pan ddylent fod yn hunan-ynysu.

Rhybuddir busnesau, os ydynt yn caniatáu i weithwyr ddychwelyd cyn diwedd y cyfnod hunan-ynysu a bennir gan y Tîm Prawf, Olrhain ac Amddiffyn, yna gall eu busnes wynebu cael eu cau ar unwaith.

Bydd busnesau sy'n methu â pharchu dyletswydd gweithiwr i ynysu yn torri gofynion y rheoliadau cyfyngiadau coronafeirws. Mae'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i fusnesau ganiatáu a galluogi unigolyn sydd fel arfer yn gweithio yn yr adeilad i hunan-ynysu oherwydd profi'n bositif am coronafeirws neu os ydynt wedi cael cysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif. Hyd yn oed os yw’r prawf unllif yn negyddol, rhaid iddynt hunan-ynysu os ydynt wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â coronafeirws. Efallai eu bod yn dal i fod â'r firws ac yn heintus.

Rhaid caniatáu i'r gweithiwr hunan-ynysu am gyfnod a roddir i'r unigolyn gan y tîm olrhain cyswllt. Nid yw canlyniadau profion unllif negyddol yn cael blaenoriaeth dros hysbysiad gan y tîm olrhain cyswllt i hunan-ynysu. Gall unrhyw un sy'n torri'r gofyniad i hunan-ynysu fod yn cyflawni trosedd. Gall busnesau sy'n methu â chaniatáu neu alluogi gweithiwr i hunan-ynysu fod yn destun cau ar unwaith.

Os oes gan berson symptomau COVID-19, mae angen hunan-ynysu ar unwaith ac archebu prawf PCR ar wefan Llywodraeth Cymru neu ffonio 119.

Mae mwy o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru am hunan-ynysu.  

Nid yw'r pandemig drosodd ac mae'r feirws yn parhau i ledaenu ledled ein sir. Gyda'n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

Poster i fusnesau am hunan-ynysu.

23/07/2021