Atgoffir busnesau yng Ngheredigion i gadw at reolau’r coronafeirws er mwyn osgoi cynnydd yn nifer yr achosion.

Atgoffir busnesau i ddilyn eu rhagofalon mewn perthynas â COVID. Mae hyn yn cynnwys cadw pellter cymdeithasol, ciwio a systemau unffordd, darparu hylif diheintio dwylo a Chyfarpar Diogelu Personol i staff.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rhannu’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ymwneud â gostyngiad amlwg a chyffredinol mewn safonau o ran cadw pellter cymdeithasol mewn rhai archfarchnadoedd.

Mae nifer y cwynion y mae Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd y Cyngor wedi eu derbyn ar y mater hwn wedi bod yn cynyddu, ac mae hyn yn codi pryderon mwy cyffredinol sy’n gysylltiedig ag ystod ehangach o safleoedd, gan gynnwys lleoliadau bwyta, tafarnau, ac archfarchnadoedd. Mae’r cwynion hyn yn awgrymu bod llai yn cydymffurfio â’r canllawiau o ran cadw pellter cymdeithasol mewn rhai o’r busnesau hyn.

Yng Ngheredigion, bydd y Cyngor yn canolbwyntio ar y sectorau busnes hyn ac yn cynnal arolygiadau wedi’u targedu gyda’r bwriad o atgoffa busnesau o’r rheoliadau sydd ar waith a’u cyfrifoldeb cyfreithiol yn hyn o beth. Rhoddir Hysbysiadau Gwella i safleoedd lle ystyrir bod hynny’n angenrheidiol ac yn briodol.

Daeth rheoliadau newydd i rym ddydd Llun, 14 Medi sydd wedi rhoi pwerau newydd i awdurdodau lleol yng Nghymru reoli adeiladau, digwyddiadau a lleoedd cyhoeddus yn eu hardaloedd i helpu i reoli coronafirws. Mae hyn yn cynnwys y pŵer i gau adeilad a lleoedd cyhoeddus a stopio digwyddiadau.

Atgoffir y cyhoedd hefyd o’r angen i ddilyn y rheolau wrth fynd ar hyd y lle yng Ngheredigion. Mae gwisgo masg mewn siopau a mannau cyhoeddus eraill dan do nawr yn orfodol.

Mae gwybodaeth ynglŷn â Cheredigion a’r Coronafeirws ar gael yma.

16/09/2020