Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Ceredigion yn ceisio cysylltu â chynifer o aelodau'r gymuned â phosibl ynghylch cymryd rhan mewn arolwg yn ymwneud â llety i gymunedau’r Sipsiwn a Theithwyr. Bydd gwybodaeth a gesglir o'r arolwg yn cael ei defnyddio i ddeall faint o leiniau y gallai fod eu hangen yn awr ac yn y dyfodol yng Ngheredigion.

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnal Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr o leiaf bob pum mlynedd er mwyn sicrhau bod safleoedd priodol yn cael eu darparu pan nodir bod anghenion llety heb eu diwallu.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, aelod Cabinet â Chyfrifoldeb dros Dai, "Mae dealltwriaeth o Lety Sipsiwn a Theithwyr yn hanfodol i ni fel Cyngor er mwyn cynnig darpariaeth sydd wedi ei chynllunio'n iawn. Mae angen i ni siarad â chynifer o deuluoedd ac unigolion â phosibl er mwyn cynhyrchu gwerthusiad cadarn o'r angen yn y sir am safle neu safleoedd ar gyfer sipsiwn, teithiwr neu deithwyr sioe. Os oes gennych chi unrhyw gysylltiadau â chymuned y sipsiwn neu deithwyr, gadewch i'r Cyngor wybod sut i gysylltu â nhw neu eu hannog i gysylltu'n uniongyrchol â'r Cyngor.”

Bydd unrhyw ddata personol a gesglir yn cael ei gadw o dan hysbysiad preifatrwydd y Cyngor sydd ar gael yma: http://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/diogelwch-data-a-rhyddid-gwybodaeth/diogelwch-data/hysbysiad-preifatrwydd/
Cysylltwch â’r Cyngor yn uniongyrchol gan ddefnyddio’r e-bost: gt@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch Clic, Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid y Cyngor ar 01545 570881.

19/08/2019