Mynychodd 104 o Lysgenhadon Ifanc newydd hyfforddiant mewn tri lleoliad gwahanol ar draws Ceredigion i ddechrau eu llwybr arweinyddiaeth Llysgenhadon Ifanc.

Gweithredir llwybr arweinyddiaeth y Llysgenhadon Ifanc ar draws ysgolion yng Ngheredigion. Mae’n dechrau gyda lefel Efydd, sy’n cychwyn ym mlynyddoedd pump a chwech yn ysgolion cynradd ac yn symud ymlaen i’r cyfnod yn yr ysgol uwchradd gyda’r lefelau  Criw Chwaraeon, Arian, Aur a Phlatinwm

Mae’r rhaglen Llysgenhadon Ifanc, sy’n cael ei ddarparu gan Ceredigion Actif, yn anelu at alluogi ac ysbrydoli pobl ifanc i fod yn arweinyddion trwy chwaraeon a helpu annog eu ffrindiau i ddatblygu diddordeb mewn cadw’n heini.

Yn ystod y diwrnodau hyfforddi, maent yn paratoi addunedau ar gyfer y flwyddyn i ddod a chaiff y cynlluniau gweithredu hyn eu cyhoeddi i weddill disgyblion yr ysgol a'u rhieni. Yna, maen nhw'n dychwelyd i'r ysgol ac yn dechrau trefnu gweithgareddau a digwyddiadau i annog mwy o blant i fod yn egnïol.

Mae'r hyfforddiant yn cynnwys gwybodaeth am ddewis timau, sut i annog pawb i gymryd rhan, cynhwysiad anabledd a rhaglenni Ceredigion Actif fel Ffit yn 5 a'r codau QR sy'n annog datblygiad sgiliau yn y blynyddoedd cynnar.

Mae'r holl Lysgenhadon Ifanc efydd wedi cael y dasg o drefnu chwaraeon a sgiliau ar gyfer disgyblion eraill o flynyddoedd 5 i 6 mewn gwyliau chwaraeon a gynhelir ledled y sir. Mae gwyliau tymor yr Hydref ar gyfer blynyddoedd 5 a 6, gwyliau tymor y gwanwyn ar gyfer blwyddyn 3 ac mae gwyliau tymor yr haf ar gyfer plant y cyfnod sylfaen. Mae’n ofynnol hefyd iddynt redeg clybiau amser cinio ac ar ôl ysgol yn ôl yn eu hysgolion.

Alwyn Davies yw’r Rheolwr Pobl Ifanc Egnïol i Gyngor Sir Ceredigion. Dywedodd, “Rydyn ni'n llawn cyffro gyda'r grŵp newydd o arweinwyr ifanc. Nawr eu bod wedi mynychu'r diwrnodau hyfforddi, maent yn barod i ddechrau cynnig cyfleoedd yn ôl yn eu hysgolion. Byddant yn bennaf yn arwain clybiau amser cinio ac ar ôl yr ysgol gyda'r nod o gael mwy o blant i fod yn egnïol, gan greu diddordeb mewn iechyd a lles a gwella hyder plant i roi cynnig ar ystod eang o weithgareddau.

“Yn ystod eu mis cyntaf, byddwn yn gofyn iddynt weithio gyda ni i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau yn ein gŵyl aml-chwaraeon. Bydd hyn yn ffordd ddefnyddiol o'u mentora'n araf wrth iddynt cyflawni canlyniadau. Maent wedi cael eu crysau polo ac yn awyddus i ddechrau ar yr ysgol arweinyddiaeth.”

Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Hamdden. Dywedodd, “Mae'n dda gweld y nifer fawr o bobl ifanc sydd â diddordeb mewn bod yn Llysgenhadon Ifanc. Mae ffitrwydd a lles yn allweddol i ddatblygiad pobl ifanc, a bydd y Llysgenhadon Efydd ifanc newydd hyn yn fodelau rôl mewn ysgolion yng Ngheredigion. Rwy'n dymuno'r gorau iddynt.”

Am fwy o wybodaeth, neu i ddysgu mwy am gyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch draw i’r tudalennau Facebook neu Twitter Ceredigion Actif neu’r wefan www.ceredigionactif.org.uk. Gallwch hefyd cysylltu â Alwyn Davies, Rheolwr Pobl Ifanc Egnïol ar 01970 633 695 neu drwy e-bost ar Alwyn.Davies@ceredigion.gov.uk.

15/10/2019