Mae Arweinwyr y pedwar grŵp gwleidyddol yng Ngheredigion wedi cytuno ar addewid i gynnal ymgyrch deg a pharchus ar gyfer yr Etholiadau Lleol ym mis Mai.

Cytunodd Ellen ap Gwynn (Plaid Cymru), Ceredig Davies (Democratiaid Rhyddfrydol), Dafydd Edwards (Llais Annibynnol) a Ray Quant (Annibynnol) yn unfrydol i ymrwymo i ymgyrch etholiadol deg a pharchus.

Mae hyn yn unol â’r addewid a gytunwyd yn ystod cyfarfod o Fwrdd Gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), lle cytunodd pob un o’r 22 o Arweinwyr Cynghorau yng Nghymru ar ddatganiad ar y cyd.

Mae arweinwyr y grwpiau gwleidyddol yng Ngheredigion hefyd wedi cytuno i'r un addewid, sydd fel a ganlyn:

Ymgyrch Deg a Pharchus

“Rydym i gyd yn rhy gyfarwydd â’r gamdriniaeth yr ydym yn ei gweld yn ein mewnflychau e-bost, ar ein negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol neu’n ei gweld neu’n ei chlywed ar ein strydoedd, neu’n waeth na hynny, yn ein cartrefi.  

Fe ddylai gwleidyddiaeth ganolbwyntio ar ffeithiau a thrafodaeth barchus am wahaniaethau o ran polisi neu flaenoriaethau, nid sarhad neu anoddefgarwch, camwybodaeth neu gasineb at fenywod, gwahaniaethu neu rwyg.

Rydym wedi ymrwymo i ddenu mwy o bobl amrywiol i ystyried sefyll ar gyfer etholiad, mae angen i ni roi tawelwch meddwl a chefnogi’r ymgeiswyr hynny sy’n newydd i fywyd democrataidd, y rhai hynny sy’n ymwybodol eu bod yn y lleiafrif neu sydd eisoes wedi profi gwahaniaethu.

Mae etholiadau’r cyngor yn ymwneud â phobl sydd eisiau cyfrannu a sydd eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n cymunedau.

Gwaetha'r modd, rydym ni'n gweld nifer gynyddol o gynghorwyr ac ymgeiswyr yn cael eu cam-drin, eu bygwth a'u dychryn.

Yn ogystal â bod yn gwbl annerbyniol, mae'r ymddygiad hwn yn tanseilio egwyddorion rhyddid barn, ymgysylltu democrataidd a thrafod.

Rydym ni'n ymdrechu i drin pawb â chwrteisi, caredigrwydd a pharch ac, fel arweinwyr, rydym ni'n sefyll gyda'n gilydd i alw am roi diwedd ar gam-drin, brawychu ac aflonyddu o unrhyw fath. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth i ni gychwyn ar y cyfnod allweddol cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai.

Rydym ni'n addo cymryd rhan mewn ymgyrch etholiadol deg sy'n seiliedig ar ymgyrchu cadarnhaol a theilyngdod, yn hytrach nag ymosodiadau personol a difenwol yn erbyn unigolion.

Rydym ni'n annog pob aelod etholedig a phob ymgeisydd yn yr etholiad sydd ar y gweill i wneud yr un peth. Yn ogystal, fe fyddwn ni'n amlygu'n gyhoeddus unrhyw ymddygiad amhriodol o'r fath ac ni fydd unrhyw oddefgarwch o ran cam-drin.

Mae gan bob un ohonom ni'r hawl i gyflawni ein dyletswyddau dinesig heb ofni ymosodiad neu gamdriniaeth.

Mae unrhyw ymddygiad amhriodol – naill ai ar lafar, yn gorfforol neu'n ysgrifenedig ar y cyfryngau cymdeithasol – yn gwbl annerbyniol, a bydd camau'n cael eu cymryd os bydd angen.

Byddwch yn garedig ac yn deg ym mhopeth rydych chi'n ei ddweud ac yn ei wneud.”

Etholiadau Llywodraeth Leol 2022

Mae rhagor o wybodaeth am yr Etholiadau Llywodraeth Leol a gynhelir ar 05 Mai 2022 yng Ngheredigion ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

04/02/2022