Wrth i gyfnod yr ŵyl nesáu, mae’r Cyngor yn gofyn i drigolion fod yn ystyriol wrth ddathlu’r Nadolig eleni.

Yn draddodiadol, mae cyfnod yr ŵyl yn amser pan fydd pobl yn trefnu ac yn mwynhau digwyddiadau cymdeithasol gyda theulu, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr.

Oherwydd y cyfyngiadau ehangach a oedd ar waith y llynedd, cafodd llawer ohonom ein hatal rhag cael y cyfle hwn, ac felly gwnaethom hynny yn rhithiol. 

Eleni, wrth i ni ddechrau trefnu cwrdd dros y Nadolig, gofynnwn i chi fod yn ystyriol o'ch penderfyniadau ynghylch pwy rydych chi'n cyfarfod â nhw ac ym mhle, yn ogystal â chofio'r canllawiau sylfaenol yr ydym i gyd mor gyfarwydd â nhw erbyn hyn.      

Ma cefnogi ein busnesau lleol y Nadolig hwn yn bwysig, fodd bynnag mae hefyd yn hanfodol cofio nad yw Covid-19 wedi diflannu.

Gallwch helpu i gadw eich gilydd yn ddiogel y Nadolig hwn drwy wneud y canlynol:

  • gwisgo masg mewn mannau prysur
  • golchi eich dwylo
  • cael y brechlyn
  • ystyried mynd allan mewn grwpiau llai
  • caniatáu digon o awyr iach os ydych yn cwrdd dan do
  • osgoi mannau prysur a gorlawn
  • aros adref os ydych yn teimlo’n sâl

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chyngor yn ddiweddar ynghylch profion llif unffordd. Os ydych chi dros 11 oed, fe'ch anogir i gymryd profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos (bob 3 neu 4 diwrnod) os nad oes gennych symptomau COVID-19. Fe'ch anogir hefyd i gymryd prawf os ydych yn mynd i fod mewn sefyllfa risg uwch, gan gynnwys treulio amser mewn mannau prysur neu dan do, cyn i chi ymweld â phobl sydd â risg uwch o salwch difrifol o ganlyniad i COVID-19, ac os ydych yn teithio i rannau eraill o Gymru neu'r DU.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://llyw.cymru/prawf-COVID-19-cyflym-heb-symptomau

Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud ein rhan i gadw Ceredigion yn ddiogel ac yn agored y Nadolig hwn. Bydd dilyn y mesurau hyn yn helpu i gadw ein gilydd, y gymuned a'n trigolion mwyaf bregus yn ddiogel, yn ogystal â diogelu ein GIG hanfodol.

Gadewch i ni gadw busnesau Ceredigion yn ddiogel wrth hefyd rhoi hwb mawr ei angen i’r economi leol.

25/11/2021