Mae aelwydydd yn ardal Tregaron yn derbyn holiadur ynghylch cynllun Cylch Caron.

Bydd yr holiadur yn helpu i ganfod y galw am dai i bobl hŷn, llety gwarchod a thai gofal ychwanegol yn yr ardal. Bydd hefyd yn canfod dewisiadau tai aelwydydd sy’n byw yn yr ardal gan gynnwys eu dealltwriaeth o dai gofal ychwanegol. Mae ardal Tregaron yn ymestyn o Gwmystwyth i lawr i Lanbedr Pont Steffan a throsodd i Aberaeron.

Mae Canolfan Adnoddau Integredig a Gofal Ychwanegol Cylch Caron yn brosiect cyffrous ac unigryw sy'n ceisio cynnig llawer o gyfleoedd a manteision i bobl yn yr ardal.

Bydd y prosiect yn creu datblygiad tai gofal ychwanegol ynghyd â model arloesol ar gyfer gofal yn y gymuned mewn ardal wledig er mwyn diwallu anghenion iechyd, tai a gofal lleol. Y bwriad yw y bydd y datblygiad newydd yn disodli Ysbyty Cymunedol presennol Tregaron a chartref preswyl Bryntirion.

Mae tai Gofal Ychwanegol yn darparu llety modern gyda gofal, cymorth a gwasanaethau cysylltiedig ar gael ar y safle. Bydd y fflatiau hunangynhwysol ar gael i'w rhentu i ymgeiswyr cymwys 55 oed neu’n hŷn neu 18 oed neu’n hŷn sydd ag anghenion gofal cymwys.

Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Tai Canolbarth Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae map o ardal Cylch Caron i’w weld ar wefan Opsiynau Tai Ceredigion.

Medrir llenwi’r holiadur yma. Bydd yn cymryd tua 15 munud i’w gwblhau ac mae ar agor tan 3 Awst.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y datblygiad newydd cyffrous hwn, gallwch siarad gydag un o’n hymgynghorwyr ar 01545 574123 neu anfonwch e-bost at Housingregister@ceredigion.gov.uk

27/07/2020